Cyfarfod y tylluanod
Rydyn ni’n edrych ymlaen unwaith eto i roi cipolwg arbennig i chi ar fyd cyfrinachol ein tylluanod gwynion, Nos (gwryw) a Seren (benyw), sydd wedi dychwelyd i’w nyth yn un o’n gwarchodfeydd natur eleni. Cafodd y pâr eu henwi gan aelodau o'n cymuned, yn ôl yn 2022, pan ddechreuon ni ddangos lluniau byw am y tro cyntaf o'n camera blwch nythu.
Byddwn yn dod â diweddariadau rheolaidd i chi trwy gydol y tymor.
Cyngor ar edrych arnyn nhw: Os ydych chi'n hofran eich cyrchwr dros y gwe gamera mae gennych opsiynau i gymryd ciplun, chwyddo i mewn neu lenwi eich sgrin
Mae’r rhain yn lluniau byw, heb eu golygu o dylluanod gwynion. Ar adegau penodol, mae'n bosibl y bydd delweddau annymunol o'r byd naturiol. Adar gwyllt yw'r rhain; mae'r tylluanod gwynion sy'n bridio a'u nyth yn cael eu gwarchod gan y gyfraith. Caiff yr adar eu monitro o dan drwydded gan Gyfoeth Naturiol Cymru.
Llinell Amser y tylluanod gwyn 2026
Bydd ein gwe-gamera yn ein galluogi i ddilyn antur ryfeddol Nos a Seren dros fisoedd y gwanwyn a’r haf, a gobeithiwn na fydd yn rhy hir cyn i ni gael cipolwg ar dylluanod bach newydd.
Gorffennaf 2026
Ar ddechrau'r mis, doedd y ddwy dylluan fechan barod i hedfan y nyth. Fe wnaethant fentro allan ar y platfform yn amlach i ymestyn eu hadenydd ac ysgwyd rhywfaint o'u plu. Erbyn canol mis Gorffennaf, roedd un dylluan fach wedi hedfan y nyth ac wedi mentro i’r byd mawr. Parhaodd y dylluan fach oedd ar ôl i dreulio'i amser o amgylch y bocs nythu neu'n clwydo ar y trawstiau. Fodd bynnag, nid oedd yn hir cyn i’r dylluan fach hon hefyd hedfan y nyth. Dymunwn bob lwc i'r ddwy!
Last barn owl in the nest July 2026 © NWWT
Wrth i ni adael Gorffennaf ar ôl, efallai y byddwn ni’n dal i gael ymweliad achlysurol gan y teulu, lle gellir eu gweld gyda'i gilydd yn twtio’u plu ac yn gorffwys ar y trawstiau. Tymor llwyddiannus arall i'n cwpl o dylluanod gwynion!
Barn owls in the rafters © NWWT
Mai 2026
Mae’r wy cyntaf wedi deor! Gellid gweld y cyw newydd yn swatio mewn pentwr ymhlith yr wyau eraill. Dilynwyd yn fuan gan ail dylluan. Mae Seren (y fenyw) yn symud o gwmpas o bryd i'w gilydd i roi cipolwg ar y cywion bach, ac yn eu bwydo'n rheolaidd. Mae'n ymddangos na wnaeth yr wyau eraill ddeor.
Barn owl webcam footage 2026 (https://youtu.be/FGYOelMgEtA)
Barn owl webcam footage 2026 © NWWT
Erbyn diwedd y mis. Roedd y tylluanod bach yn edrych yn llawer mwy! Roedd ein tylluanod bach yn dueddol o guddio yng nghorneli'r bocs, allan o olwg y camera, ond roedd modd eu gweld yn taro eu pennau allan bob hyn a hyn. Weithiau byddent yn symud o gwmpas y nyth yn enwedig pan oedd Seren yn mynd allan ar y trawstiau i dwtio’i phlu.
Mehefin 2026
Owlet in nest box © NWWT
Roedd y tylluanod bach yn cael eu gadael ar eu pennau eu hunain mwy y dyddiau hyn. Roedd y ddau riant yn mynd allan i hela gyda'r nos. Roedden nhw'n bwyta amrywiaeth o ysglyfaeth, gan gynnwys llygod, chwistlod ac adar llai. Wrth i'r tylluanod bach fynd yn fwy, dechreuodd y blwch nythu fynd yn orlawn. Gellid gweld y ddau riant yn clwydo yn y trawstiau. Roedd y cywion yn taro eu pennau allan o'r blwch nythu yn amlach, yn chwilfrydig i weld beth oedd y tu hwnt i'r bocs.
Barn owl owlet poking its head out of the nest box © NWWT
Erbyn diwedd y mis, roedd y tylluanod bach yn dechrau edrych yn fwy aeddfed. O bryd i'w gilydd roedd un o'r cywion yn mentro allan i'r trawstiau ychydig y tu allan i'r bocs, ochr yn ochr â Nos a Seren. Byddai'n ymestyn yn fawr cyn dychwelyd i mewn eto.
Barn owl outside the nest, June 2026 © NWWT
Ebrill 2026
Er bod y pryfed cop wedi rhwystro ein golwg gyda'u gweoedd eleni, fe wnaethom lwyddo i weld o leiaf bedwar wy yn eisteddiad eleni. Mae tylluanod gwynion yn deor eu wyau am tua 32 diwrnod, felly roeddem ni'n disgwyl iddyn nhw ddeor yn fuan!
Mawrth 2026
Gan weithio o dan drwydded rhywogaethau a warchodir gan Cyfoeth Naturiol Cymru, fe wnaethom osod ein camerâu yn barod ar gyfer tymor tylluanod gwynion arall. Roedd yn ymddangos bod Nos a Seren yn ymgartrefu'n dda.
Mae'n bosib mai’r dylluan wen, hardd yw ein tylluan fwyaf poblogaidd. Mae’n hawdd ei hadnabod gyda'i wyneb siâp calon unigryw, ei phlu gwyn pur, a'i thaith hedfan dawel. Cadwch lygad arni wrth iddi hedfan yn isel dros gaeau a gwrychoedd pan fydd hi’n gwawrio a nosi.
Barn Owls © Russell Savory
Wrth eich bodd yn gwylio ein tylluanod?
Barn owl sponsorship with cuddly toy © NWWT
Noddwch tylluan wen
Mae pob pryniant yn cefnogi ein gwaith ni i warchod ac adfer byd natur yng Ngogledd Cymru.
Ariannwyd yr offer sy’n cael eu ddefnyddio wrth ffrydio’n fyw y delweddau yma gan Gynllun Gymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi Llywodraeth Cymru ac yn cael ei gweinyddu gan CGGC