Mae hon yn foment arwyddocaol i'n sefydliad ni — un o barhad ac o adnewyddu. Fel Cadeirydd, rydw i'n ffodus o gael gweithio gyda thîm eithriadol o staff, ymddiriedolwyr, gwirfoddolwyr, aelodau a phartneriaid sydd wedi'u huno gan ymrwymiad a rennir i ddyfodol byd natur a llefydd yng Ngogledd Cymru. Gyda'n gilydd, rydyn ni’n falch o'r cynnydd y mae'r Ymddiriedolaeth wedi'i wneud yn ystod y blynyddoedd diwethaf — cynnydd a wnaed yn bosibl diolch i arweinyddiaeth ragorol ein Prif Swyddog Gweithredol ni sy'n gadael, Frances Cattanach.
Mae Frances wedi arwain yr Ymddiriedolaeth gyda doethineb, eglurder a didwylledd mawr. Yn ystod ei chyfnod yn arwain, rydyn ni wedi cryfhau ein cyllid, dyfnhau ein perthnasoedd cymunedol, ehangu ein heffaith ar gadwraeth ac egluro ein pwrpas sefydliadol. Mae hi'n gadael yr Ymddiriedolaeth mewn sefyllfa gref a chadarnhaol — yn cael ei pharchu yn lleol ac yn genedlaethol, ac yn barod i gymryd camau meddylgar ac uchelgeisiol i'w phennod nesaf.
Rydyn ni nawr yn chwilio am arweinydd fedr adeiladu ar y sylfaen honno gyda hyder a gofal. Unigolyn sy'n gallu cyfrannu trylwyredd strategol a dyfnder perthynol — yn gallu arwain sefydliad cymhleth drwy newid, gan aros yn driw i werthoedd cydweithredu, didwylledd a stiwardiaeth hirdymor.
Mae'r rôl hon hefyd yn rhan o fudiad ehangach. Mae Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru yn gweithio'n agos gyda'r pedair Ymddiriedolaeth Natur arall yng Nghymru, yn ogystal â Chymdeithas Frenhinol yr Ymddiriedolaethau Natur (RSWT), fel rhan o ymrwymiad cynyddol ledled y DU i adfer byd natur. Bydd partneriaethau cadarn, dysgu ar y cyd, ac arweinyddiaeth gydlynol ar draws y mudiad yn hanfodol yn ystod y blynyddoedd sydd i ddod. .
Os hoffech chi edrych ar y rôl ymhellach ac os ydych chi’n ystyried gwneud cais, cliciwch ar y ddolen isod.