Hela glöynnod byw ar ddolydd hudolus

Hela glöynnod byw ar ddolydd hudolus

Small Pearl bordered Fritillary - Chris Lawrence

Cyfle i fwynhau’r pryfed mwyaf rhodresgar – a’r blodau maen nhw’n dibynnu arnyn nhw – yng Ngwarchodfa Natur Cors Goch

Mae ei daeareg gymhleth a’i chyfoeth o gynefinoedd yn gwneud Cors Goch, ar Ynys Môn, yn un o warchodfeydd natur mwyaf amrywiol Cymru. Mae’n gartref i lawer o blanhigion prin y gwlybdir, gan gynnwys rhywogaethau pryfysol, a chasgliad o degeirianau. Mae grug, eithin a’r fioled welw brin yn ffynnu ar y rhostir asidig ac, wrth i’r haf fynd rhagddo, mae llygad-llo mawr a melog y cŵn yn britho’r caeau bychain, caeedig yng nghanol y glaswelltau sych.   

Mae’r amrywiaeth ragorol yma o blanhigion yn gartref i amrywiaeth yr un mor ragorol o infertebrata ac mae glöynnod byw Cors Goch yn cynnwys y copor bach cyfarwydd, y glesyn cyffredin a’r gwyn blaen oren. Hefyd efallai y byddwch yn dod ar draws y fritheg berlog fach swil – mae nawr yn amser da i’w gweld, a chofiwch ddweud wrthym ni beth rydych chi wedi’i weld! 

Mae cynefinoedd cyfoethog Cors Goch yn cael eu rheoli gan dîm o wirfoddolwyr a staff ac mae technegau traddodiadol fel pladurio dal yn werthfawr yma. Beth am ddod draw i ddigwyddiad yn y warchodfa ar 13 Gorffennaf i gael dysgu mwy am y ddau?