Dolydd am Oes – rhowch gynnig ar greu un eich hun!

Anna Williams, y Swyddog Addysg a Chymunedol, sy’n eich annog chi i edrych ar eich darn gwyrdd o dir drwy lygaid pryf!

Dolydd oedd asgwrn cefn ein cefn gwlad ni beth amser yn ôl ond cawsant eu colli i raddau helaeth wrth i ffermio dwys ddod i fodolaeth ar ôl yr ail ryfel byd. Maent yn parhau i fod yn adnodd bwyd amhrisiadwy i’r gadwyn fwyd gyfan, gan ddechrau gyda llu o bryfed sy’n byw yma.

Mae llawer o löynnod byw fel y gwibiwr bach a mawr, llwyd y mur a’r porthor, yn dodwy eu hwyau ar laswellt ac felly mae’n bwysig ein bod ni i gyd yn gadael i ardal o laswellt dyfu ychydig yn wyllt. Efallai bod rhai blodau gwyllt yn y gwyndwn yn barod felly dechreuwch drwy aros a gweld beth sydd gennych chi. Mae’n syniad da ceisio lleihau cynnwys maeth y safle drwy dorri a symud y gwair am rai blynyddoedd, neu drwy gloddio’r tyweirch a symud rhywfaint o’r uwch-bridd. Hefyd gallwch ddinoethi pridd drwy ddigroeni’n drwm gyda chribin neu dractor.

Mae natur ei hun yn ‘hau’ hadau planhigion sy’n blodeuo yn yr haf yn ystod yr hydref felly mae’n amser da nawr i roi cynnig arni. Gallwch gyflwyno rhai blodau gwyllt sydd i’w gweld yn lleol i’r pridd noeth drwy hau hadau neu blannu eginblanhigion. Hadwch gymysgedd o blanhigion blodau gwyllt sy’n addas i’ch pridd chi, ac mae’n syniad da cyflwyno cribell y gwair gan ei bod yn byw fel parasit ar wreiddiau glaswellt gan eu cadw mewn trefn. Mae milddail, pys y ceirw, y bengaled, briwydd felen, llygad llo mawr, y feddyges las a meillion coch i gyd yn blanhigion dôl traddodiadol da. Cofiwch fod rhaid torri dolydd unwaith neu ddwy y flwyddyn.   

 

Felly beth am lawrlwytho ein taflen ni - ‘Sut i Blannu Dôl’ - yma a rhoi cynnig arni eich hun?!  

Mae llawer o gyflenwyr hadau blodau gwyllt yn fodlon rhoi cyngor a hefyd mae rhai’n gwerthu eginblanhigion sy’n helpu i gyflymu’r broses o sefydlu darn o dir gyda blodau gwyllt. Gallaf argymell rhai darparwyr hadau amrywiol, fel Emorsgate seeds, Plantwild, Wyndrush Wild (De Cymru), Landlife Wildflowers ger Lerpwl, a Cumbria wildflowers.