Blodau gwyllt i achub y dydd

Blodau gwyllt i achub y dydd

© Anna Williams

Fe allwn ni i gyd gynnwys blodau gwyllt yn ein gerddi – a mwynhau’r bwrlwm ddaw gyda nhw! Dyma Anna Williams i rannu rhywfaint o awgrymiadau …

Gall blodau gwyllt fod yn ychwanegiad pwysig at unrhyw ardd neu ofod gwyrdd – yn enwedig os ydych chi eisiau denu bywyd gwyllt fel gwenyn, glöynnod byw, pryfed hofran, gwyfynod, cacwn a phryfed eraill. (Bydd y rhain, yn eu tro, yn denu anifeiliaid eraill fel adar, ystlumod a mamaliaid bychain.)  

Mae sawl ffordd i chi ychwanegu blodau gwyllt at eich gardd – mae awgrymiadau ar gyfer rhywogaethau a lleoliadau ar gael isod. Mae’n hawdd eu cynnwys mewn borderi, bocsys neu fasgedi – ond beth am fynd amdani a neilltuo rhan fechan o’ch gardd i dyfu’n ddôl?

Mae’r hydref yn amser da i hadu dôl o flodau gwyllt brodorol parhaol. Mae rheoli ffrwythlondeb y pridd yn bwysig oherwydd mae pridd ffrwythlon, cyfoethog yn annog tyfiant cadarn y rhywogaethau o laswellt a chwyn sy’n cystadlu yn erbyn blodau gwyllt – ac yn ennill yn y pen draw! Bydd torri a symud gwair o’r gwyndwn/lawnt bresennol yn lleihau ei ffrwythlondeb gydag amser, ond hefyd gallwch ddewis cael gwared ar y tyweirch presennol i gyd, neu ddarnau ohono, os nad yw o unrhyw ddiddordeb botanegol.  Wedyn dim ond hadu cymysgedd o flodau gwyllt brodorol fydd raid i chi – gan ddilyn y cyfarwyddiadau sydd wedi’u rhoi a bod yn ofalus rhag torri’r cyfan y gwanwyn canlynol!  

Mae’r blodau y gallwch chi eu tyfu’n dibynnu ar ble rydych chi’n byw, ac mae’n werth dewis blodau addas i’r safle a’r pridd (heulog/cysgodol, gwlyb/sych, asid/calchaidd).

Mae’n syniad da gofyn am gyngor gan gwmnïau hadau sy’n arbenigo mewn blodau brodorol, neu edrych o gwmpas i weld beth sy’n tyfu yn lleol!  

Mewn llecynnau heulog dewiswch y bengaled, clafrllys y maes, blodyn ymenyn, briwydd felen, pys-y-ceirw, pig garan y weirglodd, cribell felen, ffacbys, milddail, y feddyges las, hocys mwsg, llygad-llo mawr, cribau San Ffraid, eurinllys, moron y maes, briallu Mair a briallu. Ar gyfer llecynnau cysgodol, dewiswch flodau neidr, llysiau’r ysgyfaint, mapgoll, cribau San Ffraid, glesyn y coed, garlleg y berth, bysedd y cŵn a fioledau.

Ymhlith y planhigion addas i bridd sych mae clychau’r eos, gludlys arfor, penigan cyffredin, cor-rosynnau, tagaradr, clustog Fair, teim, plucen felen, rhwyddlwyn pigfain a llysiau Robert. Mae pridd llaith yn addas i lysiau’r angel, erwain, pys y ceirw mwyaf, blodau llefrith, gold y gors a llysiau’r-milwr coch.

Yn fwy na dim, rhowch gynnig arni – beth yw’r peth gwaethaf allai ddigwydd?   

Ewch i’n gwefan ni am fwy o adnoddau