Aduniad teulu afancod Cors Dyfi!

Aduniad teulu afancod Cors Dyfi!

Cors Dyfi female beaver emerging at waters edge © Montgomeryshire Wildlife Trust

Yn dilyn rhyddhau'r afanc gwrywaidd, 'Barti', a'i fab ddiwedd mis Mawrth, cafodd y fam aduniad gyda'i grŵp teuluol ddydd Gwener 16 Ebrill. Mae'r teulu cyfan o afancod gyda'i gilydd bellach yn safle afancod Ymddiriedolaeth Natur Sir Drefaldwyn yng Ngwarchodfa Natur Cors Dyfi.

Ar ôl cael ei dal a'i sgrinio o ran iechyd yn yr Alban, daethpwyd â'r afanc benywaidd i Gors Dyfi ddydd Gwener diwethaf. Pan agorwyd ei chrât wrth ymyl y dŵr, symudodd yn araf i mewn i'r dŵr a nofio o amgylch ymyl y pwll tuag at ardal o weithgarwch afancod. Ni chymerodd lawer o amser i ddod o hyd i'w chymar a'i mab ac erbyn y gyda’r nos roedd hi'n bwydo'n hapus gyda'i theulu. Maen nhw bellach yn nofio ac yn cyd-fyw gyda'i gilydd ac yn ymddangos fel pe baent wedi setlo ac yn hamddenol yn eu cartref newydd.

Mae'r afancod sydd bellach yng Nghors Dyfi wedi dod o'r Alban, dan drwydded gan NatureScot. Mae Dr Roisin Campbell-Palmer, Rheolwr Adfer ar gyfer Ymddiriedolaeth yr Afancod, yn gweithio i adleoli afancod o safleoedd gwrthdaro mewn rhannau o'r Alban, gan weithio'n agos gyda thirfeddianwyr yn y sector ffermio yn bennaf, i gynnig dewis amgen yn lle rheolaeth angheuol. Mae pob afanc yn cael ei ddal a'i drawsleoli yn unol ag arferion lles anifeiliaid gorau ac yn cael ei sgrinio o ran iechyd mewn cyfleuster pwrpasol yn Sŵ Five Sisters, Gorllewin Calder.

Dywedodd Kim Williams o Ymddiriedolaeth Natur Sir Drefaldwyn "Rydyn ni’n falch iawn o weld y teulu cyfan o afancod yn ôl gyda'i gilydd. Mae'r anifeiliaid i gyd wedi setlo'n dda ac yn edrych yn gartrefol iawn ar eu safle saith erw. Mae ganddyn nhw rôl bwysig i'w chwarae wrth adfer y gors fawn yma yn yr iseldir."

Mae Prosiect Afancod Cymru, dan arweiniad Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru ar ran holl Ymddiriedolaethau Natur Cymru, wedi bod yn cynorthwyo Ymddiriedolaeth Natur Sir Drefaldwyn gyda’r prosiect hwn drwy wneud cais am drwydded i ryddhau afancod, ariannu safle penodol a dod o hyd i'r afancod. Cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus ar y rhyddhau gan Gyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yr hydref diwethaf a dyfarnwyd trwydded ym mis Mawrth.

Mae'r prosiect hwn wedi derbyn cyllid drwy gronfa Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, sy'n cael ei chyllido gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru. Er nad yw'n ailgyflwyno i'r gwyllt, bydd cael afancod mewn canolfan ymwelwyr fel Cors Dyfi yn helpu i roi gwybod i bobl am eu hymddygiad a sut gall eu gweithgarwch naturiol gefnogi gwaith adfer ecosystemau. Bydd yr afancod a'r cynefin yn cael eu monitro'n rheolaidd gan staff a gwirfoddolwyr yr Ymddiriedolaeth Natur. Mae Ymddiriedolaeth Natur Sir Drefaldwyn a Phrosiect Afancod Cymru yn gyffrous iawn am groesawu'r teulu newydd o afancod ac edrychwn ymlaen at weld beth fydd yr afancod yn ei wneud yn y warchodfa.

Mae Prosiect Afancod Cymru wedi bod yn ymchwilio hefyd i ymarferoldeb ailgyflwyno afancod Ewrasiaidd i'r gwyllt ers 2005. Mae cynigion yn cael eu datblygu ar hyn o bryd a maes o law bydd ymgynghoriad cyhoeddus arall, ar wahân dan arweiniad CNC ar gyfer ailgyflwyno afancod i'r gwyllt.

I gael gwybod mwy am Brosiect Afancod Cymru ac am ddiweddariadau, tanysgrifiwch i’n e-gylchlythyr am afancod.