Swyddog Prosiect (tymor penodol)

Swyddog Prosiect (tymor penodol)

Diwrnod cau:
Cyflog: 26-29k (yn dibynnu ar brofiad)
Math y cytundeb: Cyfnod penodol / Oriau gweithio: Llawn amser
Hybrid
Mae Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru yn chwilio am Swyddog Prosiect (tymor penodol Rhagfyr 2025 – Mehefin 2026) ar gyfer prosiect Corsydd Calon Môn. Byddwch yn gweithio fel rhan o dîm bychan, gan helpu i ddathlu gorffennol a diogelu dyfodol Corsydd Môn. Byddwch yn ymuno â'r prosiect cymunedol hwn ar amser cyffrous wrth i ni werthuso a dathlu'r cyfnod datblygu a chymhwyso'r dysgu i wneud cais am gyllid ar gyfer cyfnod cyflawni o 5 mlynedd.

Byddwch yn drefnus ac yn llawn cymhelliant, gydag angerdd dros un neu fwy o'r canlynol: treftadaeth, cadwraeth, addysg a mynediad a chynhwysiant. 

Rydym yn gwerthfawrogi angerdd, parch, ymddiriedaeth, integriti, ymgyrchu pragmatig a chryfder mewn amrywiaeth. Er ein bod yn angerddol wrth hyrwyddo ein hamcanion, nid ydym yn feirniadol ac rydym yn gynhwysol. Rydym yn annog ceisiadau yn arbennig gan bobl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn ein sector, gan gynnwys pobl o gefndiroedd lleiafrifol a phobl ag anableddau. Rydym wedi ymrwymo i greu mudiad sydd wir yn cydnabod ac yn gwerthfawrogi gwahaniaethau a hunaniaethau unigol. Rydym yn cymryd ein cyfrifoldebau Diogelu o ddifrif. 

Cliciwch yma i ddarllen ein datganiad ymrwymiad. Efallai y bydd angen archwiliad gan y DBS ar gyfer y swydd hon.

Mae Disgrifiad Swydd manwl i'w weld isod. 

Anfonwch CV llawn ynghyd â llythyr eglurhaol erbyn 30ain o Dachwedd 2025.