Helping hedgehogs

Hedgehog in watering can

WildNet - Tom Marshall

Helpu draenogod

Cefnogi ein gwaith
Maen nhw’n diflannu o gefn gwlad mor gyflym â theigrod yn fyd-eang.

Yn fychan, crwn, brown ac wedi’i orchuddio gan bigau, mae’r draenog yn un o famaliaid gwyllt Prydain. Mae’r draenog cyffredin dan fygythiad yn awr oherwydd datblygiadau a cholli cynefinoedd sydd wedi’u hachosi gan y gostyngiad mewn gwrychoedd a’r cynnydd mewn dwysáu yn ein tirweddau amaethyddol.  

Yn ystod y 10 mlynedd ddiwethaf yn unig, mae nifer y draenogod wedi gostwng 30% a bellach mae llai na miliwn ar ôl yn y DU. Felly rydyn ni angen eich help chi – gwnewch eich gardd yn hafan i ddraenogod. 

Wild About Gardens_Hedgehog booklet

Lawrlwytho eich canllaw i helpu draenogod

Yn fychan, crwn, brown ac wedi’i orchuddio gan bigau, mae’r draenog yn un o famaliaid gwyllt Prydain.

Gwneud eich gardd yn hafan i ddraenogod

Priffyrdd draenogod

Mae draenogod angen crwydro ymhell ac agos i chwilio am fwyd, cymar a safleoedd nythu. Gyda’ch cymdogion, torrwch dwll 13cm2 (5in2) yn eich ffens  neu gloddio sianel o dan ffiniau’r ardd i gysylltu eich gerddi. Gallwch lawrlwytho cyngor am sut i wneud hyn a chofnodi eich twll draenog yn hedgehogstreet.org.

Cadwch lygad am gymdogion yn gweithio ar eu gerddi, neu’n defnyddio contractwyr ffensio – dyma gyfle perffaith i greu twll draenogod a dylanwadu ar gysylltedd.

Darparu safleoedd nythu

Mae pentyrrau o goed a dail, ardaloedd gwyllt a chartrefi draenogod wedi’u hadeiladu i bwrpas yn llefydd gwych i ddraenogod nythu a gaeafgysgu.

Hefyd mae dail wedi syrthio yn ddeunydd nythu perffaith, felly gwnewch yn siŵr nad ydych yn clirio’r rhain i gyd!

Ceisiwch eu pentyrru mewn corneli tawel nad oes neb yn tarfu arnyn nhw fel bod gan ddraenogod le diogel a braf i fagu a gaeafgysgu. 

Dweud na wrth beledi gwlithod

Mae draenogod yn hwfro hyd at 100 o infertebrata, fel malwod, gwlithod a phryfed genwair, bob nos, felly does dim angen defnyddio peledi gwlithod gwenwynig!

Gorchuddio draeniau a gylïau

Mae gan ddraenogod olwg gwael ond maen nhw’n eithaf chwilfrydig, sy’n golygu eu bod yn syrthio i dyllau ac yn methu dod ohonyn nhw. Felly, gwnewch yn siŵr eich bod chi’n gorchuddio unrhyw ddraeniau a gylïau. Os oes gennych chi bwll, gwnewch yn siŵr eich bod yn darparu pwynt mynediad fel bod draenogod yn gallu dringo allan yn ôl – gellir gwneud hyn drwy ddefnyddio ramp neu osod rhai cerrig yn un pen.

Meddwl am ddraenogod pan mae’n amser coelcerthi

Bob blwyddyn mae nifer o ddraenogod yn marw neu’n cael anafiadau am nad yw pentyrrau coelcerthi’n cael eu harchwilio cyn cael eu tanio. I atal niwed i ddraenogod a bywyd gwyllt arall, cyngor Cymdeithas Gwarchod Draenogod Prydain yw osgoi creu coelcerth tan y diwrnod y bydd yn cael ei danio – bydd hyn yn lleihau’r siawns i ddraenogod fynd i fyw ynddo er mwyn gaeafgysgu. Cofiwch adeiladu eich coelcerth ar dir clir (nid ar ben pentwr o ddail) a chofiwch ei archwilio cyn ei danio hefyd!