Sefyll Dros Natur Cymru

IEUENCTID YN GWEITHREDU DROS HINSAWDD

Sefyll Dros Natur Cymru

Mae Sefyll dros Natur Cymru yn brosiect ieuenctid cenedlaethol sydd ag uchelgais mawr!

Mae'r pum Ymddiriedolaeth Natur yng Nghymru yn ymuno i ysgogi pobl ifanc i fynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd ac ecolegol yn uniongyrchol. Am y tair blynedd nesaf, byddwn yn gweithio i rymuso ac ysbrydoli pobl ifanc i weithredu dros natur a bywyd gwyllt yn eu hardal leol ac uno eu cymunedau mewn ymdrech i leihau eu heffaith amgylcheddol ar y cyd. O Gaerdydd drefol i Ynys Môn wledig, mae pobl ifanc yn sefyll dros natur ac yn sicrhau dyfodol gwyrddach, ac rydyn ni eisiau i chi ymuno â ni!

Gwnaethpwyd y prosiect yn bosibl diolch i 'Gronfa Gweithredu Hinsawdd' y Loteri Genedlaethol, cronfa ddeng mlynedd gwerth £100 miliwn sy'n cefnogi cymunedau ledled y DU i weithredu ynghylch newid yn yr hinsawdd.

@WTW

Yma yng Ngogledd Cymru byddwn yn gweithio ar Ynys Môn, yn ehangu ein fforwm amgylcheddol presennol dan arweiniad ieuenctid ac yn cysylltu ag ysgolion lleol, busnesau, sefydliadau’r sector cyhoeddus, elusennau a grwpiau cymunedol ar lawr gwlad i helpu i wella seilwaith gwyrdd a hyrwyddo cynaliadwyedd ar yr ynys.

O Borth Swtan i Landdwyn, o Borth Dafarch i Ligwy bydd ein pobl ifanc anhygoel yn cynnal ymgyrchoedd a phrosiectau ledled Ynys Môn. Mae'r holl weithgareddau'n cael eu harwain yn llwyr gan ieuenctid a byddant yn cael eu hwyluso gan Andy a Charlotte, ein tîm datblygu ac ymgysylltu ag ieuenctid ymroddedig.

Stand for Nature web 2

Ymunwch â'n Fforwm Ieuenctid

Os ydych chi'n berson ifanc 11 i 24 oed sy’n byw ar Ynys Môn, gydag angerdd dros fywyd gwyllt a diddordeb mewn gweithredu ynghylch yr hinsawdd, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi. Does dim ots os nad ydych chi'n gwybod unrhyw beth am fywyd gwyllt lleol neu faterion hinsawdd, oherwydd bydd ein tîm yn darparu'r holl wybodaeth, hyfforddiant a chefnogaeth sydd arnoch eu hangen i helpu i wneud gwahaniaeth i'ch ardal leol.

Cysylltwch â'r tîm!

Stand for Nature web 4

Gwirfoddoli gyda ni

Dim ots beth yw eich oedran, os ydych chi'n byw ar Ynys Môn ac â diddordeb mewn gwirfoddoli ochr yn ochr â phobl ifanc angerddol i helpu i wella'ch ardal leol ar gyfer bywyd gwyllt a lleihau eich effaith amgylcheddol, cysylltwch â ni. Mae llawer o ffyrdd o gymryd rhan ac nid oes angen unrhyw wybodaeth flaenorol.

Cysylltwch â'r tîm!

stand for nature web 12

Cofrestru ar gyfer e-newyddion

Wrth i'r prosiect ehangu byddwn yn rhannu straeon, newyddion a chyfleoedd o Ynys Môn ac ar draws rhanbarthau eraill Cymru drwy e-gylchlythyr misol. Cofrestrwch yma i gael dos misol o eco-ysbrydoliaeth wyllt yn syth i'ch mewnflwch!

Cofrestru!

Gweithredu!

Ymhen amser, bydd y dudalen hon yn dod yn ofod byw ar gyfer diweddariadau prosiectau a chynnwys ar-lein wedi'i guradu gan ieuenctid. Ond am y tro, dyma rai adnoddau, canllawiau a syniadau ar gyfer camau y gallwch chi eu cymryd i ddechrau lleihau eich effaith amgylcheddol a gwella eich ardal leol ar gyfer pobl a bywyd gwyllt.

Asesu eich effaith amgylcheddol

Os ydych chi'n cymryd camau bach neu lamau enfawr, bydd unrhyw newidiadau a wnewch i leihau eich effaith yn cyfrannu'n aruthrol at ein hymdrech ar y cyd fel planed. Mae llawer o gamau bach gyda'i gilydd yn gwneud gwahaniaeth mawr, a gyda deddfwriaeth arloesol ar waith i'n helpu ni, gall pobl yng Nghymru arwain y ffordd wrth ddangos sut bydd cymunedau amgylcheddol gynaliadwy'r dyfodol yn edrych.

Mae'r WWF wedi creu adnodd ar-lein gwych i'ch helpu chi i gyfrif maint eich ôl troed amgylcheddol. Llenwch yr holiadur i weld sut rydych chi'n gwneud yn erbyn y cyfartaledd cenedlaethol ac i gael syniadau gwych ynghylch sut gallwch ddechrau lleihau eich effaith.

 

Cyfrif eich ôl troed!

Asesu eich effaith amgylcheddol

Carbon deuocsid yw un o'r prif nwyon sy'n cynhesu ein planed heddiw ac mae'n cael ei ryddhau i'r atmosffer gan bron bob gweithgaredd rydyn ni'n ei wneud fel rhywogaeth. Er mwyn dangos pa mor wael yw'r sefyllfa, yn 1900 roedd 296 rhan y filiwn (ppm) o garbon deuocsid yn yr awyr, ond heddiw mae 408 ppm. Mae hyn yn sylweddol uwch nag ar unrhyw bwynt arall yn ystod y 3 miliwn o flynyddoedd diwethaf. Mae'r byd bellach wedi deffro a sylweddoli bod hon yn broblem fawr, gydag ymgyrchwyr hinsawdd ifanc yn arbennig yn helpu i godi ymwybyddiaeth o'r problemau. Mae atebion anhygoel yn cael eu dyfeisio i fod yn garbon negyddol (senario a fyddai’n gweld y ddynoliaeth yn rhoi carbon yn ôl i’r ddaear), ond mae angen i ni i gyd wneud ein rhan i helpu gyda’r broses.

Beth allwch chi ei wneud fel unigolyn:

  1. Cerdded, beicio, loncian neu fynd ar drafnidiaeth gyhoeddus i'r gwaith os gallwch chi.
  2. Inswleiddio eich cartref. Mewn adolygiad annibynnol i Lywodraeth Cymru gan Grŵp Cynghori Datgarboneiddio Cartrefi yng Nghymru yn 2019, nodwyd bod gan Gymru un o'r stociau tai hynaf yn y DU ac Ewrop gyda 32% o'r tai wedi'u hadeiladu cyn 1919 pan nad oedd unrhyw safonau ar gyfer cadw cynhesrwydd. Yn ychwanegol at hynny, dim ond 10% o'r cartrefi cyfredol a adeiladwyd yn ystod y 18 mlynedd diwethaf, yn ystod cyfnod pryd mae cyfraith inswleiddio wedi newid yn fawr. Drwy sicrhau bod gennych inswleiddiad da mewn croglofftydd, waliau ceudod a nenfydau, fe welwch nid yn unig fod eich allyriadau carbon yn llawer llai, ond hefyd bydd biliau eich cartref yn is.
  3. Peidio â phrynu cynhyrchion sy'n cynnwys mawn. Mae mawn wedi cael ei ddefnyddio ers blynyddoedd lawer fel compost a thanwydd, ond mae llawer llai o gynefinoedd mawndir ledled y DU ac erbyn hyn rydym yn gweld eu bod yn rhyddhau carbon yn ôl i'r atmosffer yn hytrach na’i storio. Mae hwn yn fater o bwys, felly gwiriwch y label yna ddwywaith! Gallwch ddod o hyd i ganllawiau ar sut i fyw yn ddi-fawn yma.
  4. Prynu yn lleol. Mae milltiroedd bwyd, dodrefn, anrhegion a 'stwff' cyffredinol yn rhan fawr o ôl troed carbon pob unigolyn, gyda llawer o'n heitemau'n cael eu tyfu a'u gwneud mewn gwledydd eraill a'u cludo neu eu hedfan i'r DU. Os ydych chi'n prynu'ch cynnyrch a'ch eitemau yn agosach at adref, gallwch leihau'ch ôl troed yn aruthrol. Mae digon o weithgynhyrchwyr, ffermwyr lleol a chrefftwyr yng Ngogledd Cymru yn defnyddio deunyddiau lleol a chynaliadwy yn aml i greu eu cynhyrchion, felly edrychwch o gwmpas i weld beth sydd ar gael.
  5. Prynu llai. Bydd prynu yn lleol yn lleihau eich ôl troed carbon personol, ond y peth gorau y gallwn ni i gyd ei wneud i leihau ein heffaith ar y blaned yw dysgu byw gyda llai. Gall llai fod yn anoddach na lleol, ond gallwn ni i gyd ddechrau ar raddfa fach a dysgu byw gyda llai wrth i ni fynd yn hŷn. Does dim rhaid i hyn fod yn feichus chwaith, yn lle hynny gall fod yn gyfle newydd. Yn lle taflu hen ddillad er mwyn prynu rhai newydd beth am geisio defnyddio'r ffabrig i wneud dillad newydd a dysgu sut i wnïo? Efallai y gall yr hen grys hwnnw fod yn dywel sychu llestri neu fasg wyneb newydd? Efallai mai dim ond ei sandio a rhoi llyfiad o baent iddo sydd ei angen ar ddodrefnyn er mwyn rhoi bywyd newydd iddo? Mae digon o sgiliau y gallwn ni i gyd eu dysgu i wneud y gorau o'n holl stwff!
  6. Gwirfoddoli gyda ni. Mae'r holl waith mae Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru yn ei wneud yn helpu i fynd i'r afael â bygythiadau deublyg yr argyfyngau hinsawdd ac ecolegol. Drwy greu ac adfer cynefinoedd i fywyd gwyllt ffynnu rydym hefyd yn gwella eu gallu i gloi carbon. Ble bynnag ydych chi yng Ngogledd Cymru, bydd gwarchodfeydd natur a gweithgareddau'r Ymddiriedolaeth yn cael eu cynnal yn eich ardal chi, felly beth am gysylltu a chael gwybod beth sy'n digwydd. Mae cyfleoedd gwirfoddoli sy'n addas ar gyfer pob oedran a gallu, ac mae'n ffordd wych o gadw'n iach a chwrdd â phobl newydd!
Stand for Nature web 4

Bod yn glyfar gyda phlastigau

Dyfeisiwyd y plastig cwbl synthetig cyntaf, o'r enw Bakelite, yn 1907 gan Leo Baekeland, ac ers hynny mae'r amrywiaeth o blastigau a'u defnydd wedi ffrwydro. Gwelodd yr Ail Ryfel Byd yr amrywiaeth fwyaf mewn datblygiad plastig gyda chynnydd o 300% mewn cynhyrchu plastig yn yr UD yn unig. Am ddegawdau, cyfeiriwyd at blastig fel y deunydd cartref tafladwy gorau un i arbed arian - ond erbyn y 1960au dechreuodd pobl sylwi bod plastig yn cyrraedd y cefnforoedd. Yn anffodus, rydym bellach yn gwybod bod yr holl blastig a gafodd ei greu erioed yn parhau yn ein hamgylchedd, gan niweidio ein bywyd gwyllt a chanfod ei ffordd ar ffurf microblastigau i ardaloedd mwyaf anghysbell ein planed. Fodd bynnag, mae pethau y gallwn ni i gyd eu gwneud i helpu i droi'r llanw ar ein môr cynyddol o blastig.

Beth allwch chi ei wneud gartref:

  1. Siopa am ddewisiadau amgen di-blastig yn lle'r eitemau y byddech chi'n eu prynu fel arfer. Defnyddiwch fagiau papur yn lle prynu ffrwythau a llysiau mewn bagiau plastig, ewch i orsaf llenwi-eich-hun, neu geisio lleihau’r moethau wedi'u gorchuddio â phlastig rydych chi’n eu prynu!
  2. Os oes angen i chi brynu plastig, prynwch blastig y gellir ei ailgylchu a gwnewch yn siŵr ei fod yn mynd i'r bin ailgylchu. Bydd unrhyw blastig sy'n mynd i mewn i fin gwastraff cyffredinol cyhoeddus, neu'ch bin gwastraff cyffredinol eich hun gartref, yn mynd i safleoedd tirlenwi lle gallant gael eu rhyddhau i'r amgylchedd o hyd.
  3. Defnyddio canolfannau ©Terracycle i ailgylchu'r darnau hynny o blastigau na allwch eu hailgylchu gartref. Mae swyddfa Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru yn derbyn pecynnau creision, bisgedi a siocled yn ogystal â thiwbiau Pringles. Ewch i wefan ©Terracycle yma i ddarganfod beth allwch chi ei ailgylchu yn lleol.
Plastic collected on a beach clean on Anglesey

©NWWT_AndyOCallaghan

 

Mae Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru hefyd yn cynnal digwyddiadau glanhau traeth trwy gydol y flwyddyn. Edrychwch ar ein tudalen digwyddiadau i ddarganfod beth sy'n digwydd yn agos atoch chi.

Creu lle i fywyd gwyllt

Does dim angen i chi fyw yng nghefn gwlad na bod â gardd enfawr i fod yn agos at fywyd gwyllt. Mae gennym lyfrgell enfawr o adnoddau ar-lein, canllawiau a thaflenni gweithgarwch i'ch helpu chi a'ch teulu i greu ychydig mwy o le i fywyd gwyllt, a gwneud eich rhan i amddiffyn ein planhigion a'n hanifeiliaid brodorol rhag dirywiad pellach.

 

Bod yn wyllt gartref!

Stand for Nature web 5

Ein Pobl Ifanc

Mae Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru wedi bod yn cael pobl ifanc i arwain ers 2016 pan lansiwyd y prosiect Ein Glannau Gwyllt; rhaglen bum mlynedd i gynnwys pobl ifanc mewn cadwraeth natur a'r awyr agored ledled Gogledd Cymru. Daeth y prosiect i ben ym mis Mawrth 2021 ond fe helpodd y fforymau ieuenctid a sefydlwyd fel rhan ohono i greu 'Sefyll dros Natur Cymru' - gan ddiogelu gwaddol y fenter arloesol yma.

©NWWT_DewiFonEvansVideography 

NLCF .png