Hwb Cymunedol

Hwb Cymunedol

Eich helpu chi i helpu byd natur lle rydych chi'n byw

Awydd gwneud eich cymdogaeth ychydig yn wyrddach ac ychydig yn wylltach? Rydych chi yn y lle iawn! Rydyn ni mewn argyfwng natur. Mae hyn yn golygu, heb ein help ni, y byddwn ni’n colli mwy a mwy o fywyd gwyllt – anifeiliaid, planhigion, adar a phryfed. Mae’r Hwb Cymunedol yn cynnig cyngor i chi ar sut i helpu byd natur wrth gysylltu â’ch cymuned.

Sut i ddefnyddio'r Hwb Cymunedol

Mae’r Hwb Cymunedol yn lle i unrhyw un sydd eisiau gwneud rhywbeth dros fyd natur yn eu cymdogaeth. Mae’r adnoddau y byddwch chi’n dod o hyd iddyn nhw yma’n cynnig ysbrydoliaeth, syniadau a chyngor ar gyfer trefnu prosiect cymunedol, o arian a chyllid i weithio gyda phobl a dechrau eich grŵp eich hun.

Beth yw Natur Drws Nesaf?

Wrth archwilio’r Hwb Cymunedol efallai y dewch chi ar draws y geiriau Natur Drws Nesaf. Y rheswm am hynny yw bod yr adnodd yma’n gynnyrch uniongyrchol prosiect Natur Drws Nesaf, menter 2 flynedd a roddodd y gymuned wrth galon yr hyn rydyn ni’n ei wneud yn yr Ymddiriedolaethau Natur.

Fe ddaeth Natur Drws Nesaf yn bosibl diolch i gyllid o £5 miliwn o Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, a roddodd y cyngor a’r gefnogaeth yr oedd eu hangen ar bobl i helpu byd natur ar garreg eu drws. Cefnogwyd miloedd o grwpiau ledled y DU gan fenter Natur Drws Nesaf ac mae ei gwaddol yn parhau. Mae’r Hwb Cymunedol yn cofnodi straeon llawer o’r grwpiau yma ac yn cynnig cyngor fel bod pobl eraill yn gallu dilyn yn ôl eu troed.

I gael trosolwg o Natur Drws Nesaf ledled y DU, edrychwch ar y fideos a’r straeon ar ein tudalen we ryngweithiol.

Canllawiau Arbennig

Mae'r canllawiau yma’n dweud wrthych chi sut i ddechrau grŵp, sut i ddod o hyd i gyllid a phopeth sydd angen i chi ei wybod am yswiriant, banciau a mwy.

Straeon Arbennig

Our Stories library will contain personal accounts of action that communities are taking to help nature and wildlife, not just in North Wales but all over the UK. To start us off, here is a short video profile of the Llanfair-Fyw community group in Denbighshire.

Is your community already taking action for nature? Why not share your story with us!

Share your story

Chwilio am gyngor ymarferol?

Os ydych chi'n chwilio am bethau syml y gallwch chi eu gwneud i helpu bywyd gwyllt gartref, mae gan yr Ymddiriedolaethau Natur lawer o wybodaeth am sut i wneud pethau fel adeiladu bocs adar, cloddio pwll, hau blodau gwyllt a llawer mwy.

Helpu bywyd gwyllt gartref

Nextdoor Nature Partnership: National Lottery Heritage Fund, The Queen's Platinum Jubilee and The Wildlife Trusts logo

The Community Hub is a direct product of the Nextdoor Nature project, a 2-year initative made possible by the National Lottery Heritage Fund. Nextdoor Nature ended in 2024 but its legacy lives on and will continue to bring communities together to help nature flourish where they live and work! 

Except where noted and excluding images, company and organisation logos, this work is shared under a Creative Commons Attribution 4.0 (CC BY 4.0) Licence 

Please attribute as: “Nextdoor Nature (2022-2024) by The Wildlife Trusts funded by The National Lottery Heritage Fund, licensed under CC BY 40