Glaswelltiroedd calchfaen: Sgwrs a thaith gerdded blodau gwyllt (gyda chacen!)

A close up of grassland plants, with yellow 5 petal flowers, tiny purple flowers, grasses, and dead flower heads with seeds. In the distance farmlands and mountains, with a light blue sky and few clouds.

Limestone grassland © NWWT

Glaswelltiroedd calchfaen: Sgwrs a thaith gerdded blodau gwyllt (gyda chacen!)

Lleoliad:
Rhyd y Foel village green, Cwymp Road, Rhyd-y-foel, Conwy, LL22 8FG
Dewch draw i ymuno â ni am ddathliad diwedd prosiect ac wedyn taith gerdded dywys i fyny Pen y Corddyn Bach.

Manylion y digwyddiad

Pwynt cyfarfod

Ffordd Rhyd-Y-Foel, Rhyd-y-foel, Abergele, LL22 8EB ///pothole.attaching.triads
View on What3Words

Dyddiad

Time
10:00am - 1:00pm
A static map of Glaswelltiroedd calchfaen: Sgwrs a thaith gerdded blodau gwyllt (gyda chacen!)

Ynglŷn â'r digwyddiad

Ymunwch â ni am ddathliad arbennig o'n cynefinoedd glaswelltir calchfaen gwerthfawr a chyflawniadau’r prosiect 11 mis Gwreiddiau Cymunedol Glaswelltir Calchfaen.

Byddwn yn dechrau yng Nghanolfan Gymunedol Rhyd y Foel gyda phaned a chacen, gan roi cyfle i chi gwrdd â'r tîm, cysylltu ag aelodau eraill o'r gymuned, a dysgu mwy am y tirweddau rhyfeddol yma. Byddwn yn rhannu stori'r prosiect - o fynd i'r afael â'r cotoneaster ymledol i adfer y glaswelltir a'r bryn, gan wella’r amodau i'r gronfa hadau sydd â chyfoeth o rywogaethau ffynnu unwaith eto.

Am 10:30am, byddwn yn cychwyn ar daith gerdded dywys i Ben y Corddyn Bach, un o'n safleoedd glaswelltir calchfaen harddaf a chyfoethocaf o ran rhywogaethau. Mae'r daith gerdded yn daith ddychwelyd 2.4km o hyd (er efallai y bydd posib parcio'n agosach). Dylech ddisgwyl gorfod dringo tir eithaf serth am gyfnod byr wrth i ni gyrraedd y glaswelltir, a chewch eich gwobrwyo gyda golygfeydd 360 gradd godidog a chyfle i archwilio trysor cudd prin yn ein tirwedd leol. Er na fydd y glaswelltir ar ei orau, rydyn ni’n palmantu'r llwybr gyda lluniau o'r blodau gwyllt, y glaswelltau a'r glöynnod byw sydd i’w cael yn y cynefin yma ac y byddwch yn eu gweld tua diwedd y gwanwyn a'r haf - byddwn hefyd yn eich helpu chi i weld ac adnabod rhai o'r rhywogaethau prin sy'n ffynnu yn y cynefinoedd arbennig yma yn unig.

Os bydd y tywydd yn caniatáu, bydd cyfleoedd am helfeydd trychfilod, ffordd ymarferol o ddarganfod yr infertebrata anhygoel sy'n galw glaswelltir calchfaen yn gartref.

Ar ôl y daith gerdded, byddwn yn dychwelyd i'r ganolfan gymunedol i orffen y dathliad gyda'n gilydd, a mwynhau mwy o gacen!

Mae'r prosiect yma wedi cael ei gyllido gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru.

Bwcio

Gwybod cyn i chi fynd

Cŵn

image/svg+xml
Cŵn tywys yn unig
image/svg+xml

Symudedd

Mae camfa droed fawr ar lwybr y daith gerdded.

Mae gan y ganolfan gymunedol doiledau.

image/svg+xml

Beth i'w ddod

Gwisgwch ddillad awyr agored ac esgidiau addas.

image/svg+xmli

Facilities

Toiledau
Caffi / lluniaeth

Cysylltwch â ni

Carl Williams
Rhif Cyswllt: 07946089179