Swift ©David Tipling/2020VISION
O Affrica i Wrecsam: Mudo epig a chadwraeth gwenoliaid duon
Manylion y digwyddiad
Ynglŷn â'r digwyddiad
Mewn cydweithrediad â Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, rydyn ni’n cyflwyno Prosiect Gwenoliaid Duon Wrecsam. Ymunwch â ni am sgwrs gyda'r nos i ddarganfod bywydau cyfareddol yr adar rhyfeddol yma.
Bydd cyfle i ddysgu am yr ymdrechion sy'n helpu i newid tynged eu poblogaethau sy'n dirywio, gyda'r siaradwr gwadd Hayley Garrod o’r grŵp Gwenoliaid Duon a Gwenoliaid y Bondo yn Y Waun, sy’n brosiect cadwraeth cymunedol. Byddwn yn edrych ar eu hymddygiad nythu, yn cynnig awgrymiadau ar gyfer adnabod rhywogaethau, a sut gallwch chi gymryd rhan mewn gwyddoniaeth y dinesydd i helpu i gofnodi a monitro poblogaethau o wenoliaid duon pan maen nhw’n dychwelyd o Affrica yn ystod eu mudo.
Mae'r drysau'n agor am 6.45pm ar gyfer te a choffi. Bydd y sgwrs yn dechrau am 7pm.
Bydd y sgwrs yma’n cael ei chynnal drwy gyfrwng y Saesneg.
Wedi'i chyllido gan Lywodraeth Cymru drwy Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Bwcio
Pris / rhodd
Am ddim i fynychu, ond mae angen archebu lle.Wedi'i chyllido gan Lywodraeth Cymru drwy Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.