
grey seal pup © James Rogerson.
Cyfle i ddarganfod yr arfordir yma sydd â chyfoeth o fywyd gwyllt wrth i ni chwilio am forloi, adar a blodau gwyllt.
Manylion y digwyddiad
Ynglŷn â'r digwyddiad
Taith gerdded hamddenol o amgylch clogwyni isel, caeau, traethau a môr-lyn gydag esgair o ro mân, ac wedyn picnic gyda golygfeydd godidog. Mae poblogaeth fechan o forloi oddi ar y lan felly fel arfer byddwn yn cael golygfeydd gwych o forloi yn y dŵr neu wedi llusgo eu hunain allan ar yr ynys yn y môr.
Tybed fyddwch chi’n gallu gweld y môr-wenoliaid yn hedfan uwchben wrth i'r tymor magu dynnu at ei derfyn, a chwilio am huganod oddi ar y lan. Mae gan yr arfordir lawer o flodau gwyllt ac adar eraill i'w gweld hefyd!
Mae trefnydd y digwyddiad yn siarad Cymraeg sgyrsiol, mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg neu'r Saesneg yn ystod y digwyddiad yma.
Bwcio
Pris / rhodd
£3Plant yn mynd am ddim
Gwybodaeth archebu ychwanegol
Rhaid cofrestruYn addas ar gyfer
TeuluoeddGwybod cyn i chi fynd
Cŵn
Cysylltwch â ni
Rhif Cyswllt: 07725174087
Cysylltu e-bost: caroline.bateson@northwaleswildlifetrust.org.uk