Gyda diolch i Tim Hill, Rheolwr Cadwraeth gydag Ymddiriedolaeth Natur Herts a Middlesex, am y blog blasus yma.
Gwledd yn y rhisgl
Pe baem ni wedi ein bendithio ag archbŵer clyw uwchsain, byddai ymweliad â hen goedwig neu borfa gyda choed hynafol yn brofiad cwbl newydd. Byddem yn cael ein llethu gan synau cnoi, deintio a llowcio. Ond nid sŵn rhywun yn gwledda ar ddarn neu ddau o gynhwysion crimp eu picnic fyddai hwn, ond cacoffoni o chwilod dirifedi a'u larfa’n bwyta pren pydredig a marw, 'sŵn y saprocsylau'.
Mae chwilod saprocsylig yn cael eu diffinio fel rhywogaethau sy'n ddibynnol ar bren marw neu bren sy'n pydru, neu'n ddibynnol ar y rhai sy'n ddibynnol ar bren sy'n pydru am ran o'u cylch bywyd. Mae'r infertebrata yma’n ddibynnol yn bennaf ar gynefinoedd sydd wedi’u creu gan brosesau pydru neu ddifrod i bren a rhisgl coed a llwyni mwy. Mae'r cynefinoedd arbenigol yma’n cynnwys tyllau pydredd, sudd yn llifo, hyffae ffyngaidd a chyrff ffrwytho.
Cwrdd â thrigolion y pydredd
Mae cymdogaethau sydd wedi pydru'n naturiol yn gartref i gymunedau eithriadol amrywiol o fywyd gwyllt. Felly, pwy sy'n byw ble? Beth am i ni ddarganfod yr ateb!
Mae larfa'r chwilod corniog mawreddog yn ffafrio lleoliadau ar yr islawr, sef pren marw tanddaearol, tra mae larfa chwilod hirgorn du a melyn yn denantiaid hirdymor mewn canghennau sydd wedi syrthio, gan gymryd hyd at dair blynedd i adael eu cartref fel oedolion. Mae’r ffyngau sy'n ffynnu mewn lleoliadau sy'n pydru’n cynnwys coesynnau cain y ffwng cyrn gwyn a’r ysgwydd felen dalpiog.