Illustration by Corinne Welch
Sut i gael Calan Gaeaf di-blastig
Os yw gwisgoedd a masgiau Calan Gaeaf a llond gwlad o ddanteithion wedi'u lapio mewn plastig yn ddigon i'ch dychryn chi, edrychwch ar ein cynghorion doeth ni ar gyfer Calan Gaeaf di-blastig!
Ailddefnyddio hen wisgoedd
Mae posib cael llawer o hwyl yn gwisgo fel eich hoff gymeriad arswydus, ond mae arolwg diweddar wedi darganfod bod gwisgoedd Calan Gaeaf yn cynnwys 90% o blastig yn aml. Mae cyfanswm anhygoel o 7 miliwn o wisgoedd Calan Gaeaf yn cael eu taflu bob blwyddyn yn y DU. Ond fe allwch chi osgoi hyn drwy roi cynnig ar y canlynol:
- Gwneud eich gwisg eich hun o hen ddillad neu gardfwrdd
- Cyfnewid gwisg gyda ffrindiau a theulu
- Llogi gwisg am y noson yn unig
Paentio wyneb arswydus
Os ydych chi'n chwilio am wisg heb wastraff, mae paent wyneb yn opsiwn perffaith! Dewiswch baent wyneb naturiol sy'n golchi i ffwrdd ar ddiwedd y noson. Gallwch drawsnewid i fod yn ysbryd erchyll neu'n sgerbwd heb y gwastraff plastig.
Gwisgoedd Calan Gaeaf yn cynnwys 90% o blastig yn aml.
Peidiwch â gwastraffu eich pwmpen
Mae cerfio pwmpen yn weithgaredd hyfryd i deuluoedd ac yn wir arwydd o dymor Calan Gaeaf. Ond beth ydych chi'n ei wneud gyda'r gweddillion? Yn anffodus, bydd cyfanswm dychrynllyd o 8 miliwn o bwmpenni’n cael eu taflu ar ôl Calan Gaeaf yn y DU yn unig. Beth am ddefnyddio'r gweddillion i wneud pastai neu gawl pwmpen? Fel arall, mae hadau pwmpen wedi'u rhostio yn gwneud byrbryd cyflym a hawdd!
Cynwysyddion danteithion y mae posib eu hailddefnyddio
Ewch ati i uwchgylchu twb plastig, cas gobennydd neu fag mawr drwy ei addurno gyda chynllun arswydus. Bydd yn para am flynyddoedd lawer!
Danteithion cartref
Yn lle rhannu fferins unigol wedi'u lapio mewn plastig, coginiwch gyffug neu bobi cwcis arswydus eich hun. Bydd plant wrth eu bodd yn eu haddurno!
Addurno
Byddwch yn greadigol a gwnewch addurniadau y mae posib eu hailgylchu! Beth am...
- Ysbrydion, ystlumod a chadwyni papur
- Creu torch Calan Gaeaf hydrefol wedi'i gwneud o frigau a dail
- Creu llusernau dail yr hydref gan ddefnyddio hen jariau jam a dail
- Trawsnewid jygiau llaeth yn llusernau ysbrydion
- Defnyddio llinyn brown i greu gweoedd pry cop