Rhoi cynnig ar arolwg rhynglanwol

Surveyors Shoresearch Rhiwledyn May 2026 (3)

Surveyors Shoresearch Rhiwledyn May 2026 (3) © NWWT

Rhoi cynnig ar arolwg rhynglanwol

Lleoliad:
Llandanwg, near Harlech, LL45 2PJ
Rhowch gynnig ar ein harolygon ni o lannau creigiog ledled Gogledd Cymru

Manylion y digwyddiad

Pwynt cyfarfod

Llandanwg, beach path nr cafe and carpark (SH 56843 28317; proposals.mountain.record; LL46 2SD)

Dyddiad

Time
1:30pm - 3:00pm
A static map of Rhoi cynnig ar arolwg rhynglanwol

Ynglŷn â'r digwyddiad

Dyma gyfle i ymuno â'n gwirfoddolwyr Shoresearch ni a dysgu am ein harolygon rhynglanwol i weld ydyn nhw'n eich siwtio chi. Rydyn ni allan bob mis mewn tair ardal hwb yn cofnodi'r hyn rydyn ni’n ei weld ar y lan er mwyn sefydlu llinell sylfaen hanfodol a helpu i gofnodi newidiadau.

Ar agor i bobl o bob lefel (16+ yn unig) - byddwn yn darparu'r holl hyfforddiant sydd arnoch ei angen!

Mae y trefnydd yn siarad Cymraeg, felly defnyddiwch Gymraeg neu Saesneg yn ystod y daith.

Bwcio

Pris / rhodd

Ar agor i bobl o bob lefel (16+ yn unig)
Croesawn rhoddion

Gwybodaeth archebu ychwanegol

Rhaid Cofrestru

Yn addas ar gyfer

Arbenigwyr, Dechreuwyr, Beginners

Gwybod cyn i chi fynd

Cŵn

Cŵn tywys yn unig

Symudedd

Mae'r ffordd i'r traeth ar hyd llwybr tywodlyd ac arfordir sy'n cynnwys tywod a cherrig mân. Mae'r ardal arolygu tua 500 metr o hyd ar hyd yr arfordir.

Mae'r ardal arolygu ei hun yn anwastad iawn ac yn llithrig, ac mae mannau y dylid eu hosgoi, megis pyllau creigiau a bywyd gwyllt. Bydd angen i chi fod yn agos at y bywyd gwyllt, sy'n golygu plygu a/neu benlinio.

Ddim yn addas ar gyfer cymhorthion symudedd sydd ag olwynion.

Teithio:

Mae bysiau i Llanfair (taith gerdded 20 munud i'r man cyfarfod) a threnau i Llandanwg (taith gerdded 5 munud) yn rhedeg yn aml (https://www.traveline.info/plan-a-journey)

Toiled

Mae toiledau'r cyngor i'w cael yn y maes parcio, ac adroddir eu bod ar agor trwy gydol y flwyddyn.

Mynediad i gadeiriau olwyn

Nac ydyn

Beth i'w ddod

Gwisgwch ddillad sy'n addas ar gyfer y tywydd ac ar gyfer gweithio mewn mannau gwlyb. Gwisgwch esgidiau sydd â gafael dda, ac nad oes ots gennych os ydynt yn gwlychu neu'n dod i gysylltiad â halen (esgidiau rwber/welis sydd orau).

Dewch â diod gyda chi er mwyn aros yn hydradol. Mae bag yn ddefnyddiol iawn, gan ei fod yn gadael eich dwylo'n rhydd i archwilio. Mae ffôn symudol yn wych ar gyfer cofnodi'r hyn rydych chi'n dod o hyd iddo, ac mae'n helpu i ddatblygu eich sgiliau adnabod.

Darperir yr holl offer arolwg.

P

Gwybodaeth am barcio

Mae maes parcio 'talu ac arddangos' ar lan y môr - £3.85 am 4 awr (https://diogel.gwynedd.llyw.cymru/map/default.htm?haen=parcio)
i

Facilities

Toiledau
Caffi / lluniaeth
Toiled i'r anabl
Disabled parking

Cysylltwch â ni

Dawn Thomas
Rhif Cyswllt: 07584311584