Gwyllt am yr Wyddgrug

River Alyn clean up with the Wild About Mold project (c) Flintshire Leader

River Alyn clean up with the Wild About Mold project (c) Flintshire Leader

CADWRAETH BYWYD GWYLLT

Gwyllt am yr Wyddgrug

Chwilio am arwyr bywyd gwyllt

Mae llawer iawn o fywyd gwyllt yn yr Wyddgrug a’r ardal leol ond mae’n dioddef oherwydd diffyg cyswllt rhwng cynefinoedd ac am fod pobl yn teimlo eu bod wedi’u gwahanu fwy a mwy oddi wrth fyd natur. Rydyn ni’n cynnig cyfleoedd am fwy o gyswllt rhwng pobl a byd natur drwy wirfoddoli i helpu i adfer a chreu cynefinoedd bywyd gwyllt.

Cysylltu â ni

Pam mae cyswllt yn bwysig?

Mae bywyd gwyllt yn creu sail ein priddoedd ni, ein cylch dŵr a’r aer rydyn ni’n ei anadlu ac mae’n ysbrydoli pobl yn ogystal â helpu ein hiechyd a’n lles.

Er hynny, mae angen lle i ffynnu a symud, fel ymateb i fygythiadau i boblogaethau a hefyd galluogi llif genynnau. Mae gwrychoedd, ardaloedd o laswellt tal a choridorau glan afon i gyd yn nodweddion pwysig yn y dirwedd i fywyd gwyllt.

Beth ydyn ni’n ei wneud?

Fe wnaethom ddechrau gweithio yn ardal Tirwedd Fyw Alun a Chwiler yn 2014 er mwyn gwella, adfer a chreu cynefinoedd a chyswllt ar gyfer bywyd gwyllt yn yr ardal. Mae prosiect Gwyllt am yr Wyddgrug yn canolbwyntio mwy ar gysylltu cymunedau gyda bywyd gwyllt ac rydyn ni angen gwirfoddolwyr a pherchnogion tir sydd eisiau helpu.

Sut gallwch chi helpu?

Dim ots beth yw maint eich gofod, gallwch wneud gwahaniaeth i fywyd gwyllt. Gallwch weithredu gartref neu ddod i’n helpu ni i helpu bywyd gwyllt yn y dirwedd drwy wirfoddoli gyda ni. Cewch fwynhau manteision cyfarfod pobl newydd, dysgu sgiliau newydd, dod yn iachach a threulio amser gwerthfawr y tu allan, yn helpu bywyd gwyllt!

Creu cyswllt

Mae rhywbeth i’w wneud er lles bywyd gwyllt bob amser – mwy o wybodaeth am arddio er budd bywyd gwyllt yma.

Gwirfoddoli

Ymunwch â Dyddiau Merched Gwyllt am yr Wyddgrug a theimlo’r manteision o dreulio amser y tu allan gyda gwirfoddolwyr eraill cyfeillgar a helpu eich byd natur lleol ar yr un pryd!

Dod yn wirfoddolwr

Hyfforddiant

Mae’r prosiect yn cyflwyno nifer o weithdai hyfforddi sy’n canolbwyntio ar sgiliau arolygu, sgiliau traddodiadol fel codi waliau cerrig a phlygu gwrych, a sgiliau rheoli cynefinoedd fel pladurio, rheoli coetir a mwy ...