Beth sydd yn traethu yn eich hardal chi?
Mae Beached! yn brosiect newydd sy’n ceisio mapio’r bywyd môr marw neu ar farw sy’n cronni ar hyd ein traethau ni, o Southport i Aberdyfi. Mae hwn yn ddigwyddiad cyffredin ac, yn aml iawn, yn ddigwyddiad naturiol fel rhan o gylch bywyd y môr, ond ychydig iawn ydyn ni’n ei wybod am ble neu pam mae’r ‘drylliadau’ hyn yn digwydd.
Pam hoffem ddod i wybod am greaduriaid sydd wedi marw?
Mae Môr Iwerddon yn gynhyrchiol iawn ac mae hynny i’w weld wrth edrych ar y draethlin lle mae gweddillion anifeiliaid a phlanhigion i’w gweld yn aml ar ôl iddynt farw. Mae edrych ar beth sydd ar y draethlin yn ein helpu ni i ddeall beth sy’n digwydd yn y môr. Mae Beached! yn gobeithio ateb dau gwestiwn am ein traethlin:
Byddai’r prosiect yma’n addas iawn i bobl sy’n cerdded ar hyd traeth yn rheolaidd ac sydd eisiau gwybod mwy am y môr oddi ar y lan. |
Cymrwch ran yn Beached!
Tynnwch lun y bywyd môr marw, gan nodi ei hyd yn fras (a’i leoliad GPS os yw hynny’n bosib). Tynnwch lun agos o bob rhywogaeth unigol sy’n bresennol.
Cofnodwch eich darganfyddiad!
Cofnodwch eich darganfyddiad ar System Gofnodi Ar-Lein Cofnod.
Os nad ydych wedi cofrestru ar wefan Cofnod, cymerwch funud neu ddau i lenwi ffurflen gofrestru.
Os ydych wedi cofrestru yn barod, logiwch i mewn a dewiswch "Enter Records" a "Beached!"
Yn olaf, cliciwch yma i e-bostio ein Swyddog Prosiectau Moroedd Byw am fwy wybodaeth.
Drylliad neu gronfa raddol o weddillion?
Sut i wahaniaethu rhwng ‘drylliadau’ a gweddillion sydd wedi cronni’n raddol
Mae ‘drylliadau molwsgiaid’ yn cynnwys llawer o anifeiliaid wedi marw ac ar farw
Er enghraifft, bydd y rhan fwyaf o’r cregyn yn cynnwys cyrff.
Efallai bod llawer o wylanod a brain yn bwydo arnynt – ond sylwch y gall fod yn debyg iawn i ginio Nadolig, oherwydd ar ôl diwrnod neu ddau efallai bod yr ysglyfaethwyr mor llawn o fwyd fel mai dim ond eistedd o gwmpas yn treulio’r wledd maen nhw.
Fel rheol mae dwysedd o weddillion yn cynnwys cregyn gwag yn unig ac un rhywogaeth fydd yma’n aml.
Mae gennym ni ddiddordeb o hyd mewn cofnodion am y dwyseddau yma, yn enwedig os ydych chi’n eu gweld yn rheolaidd ar eich traeth.