Wildlife ponds

Pyllau bywyd gwyllt

Mae bron i 70% o byllau naturiol y DU wedi cael eu colli ac mae rhywogaethau fel gweision y neidr, pryfed dŵr a’r fadfall ddŵr gribog wedi dirywio’n sylweddol iawn yn ystod y 40 mlynedd ddiwethaf.

Gall pwrdd gardd fod yn gartref i lawer o rywogaethau ac mae’n un o’r noweddion gorau ar gyfer denu bywyd gwyllt newydd i’r ardd, gan gynnwys draenogod, adar a chreaduriaid eraill sydd angen ffynhonnell o ddŵr yfed ffres. 

Creu pwll bywyd gwyllt

Mae pwll bywyd gwyllt wedi’i gynllunio’n dda yn grêt i fyd natur ac yn nodwedd atyniadol yn yr ardd.

Dewis eich safle

Dewiswch lecyn cymharol heulog er mae rhywfaint o gysgod yn llesol. Does dim eisiau i ddŵr y pwll fod yn rhy gynnes.

Peidiwch â’i roi yn rhy agos at goed oherwydd bydd dail yn pydru mewn pwll yn lleihau faint o ocsigen sydd ar gael i fywyd gwyllt.

Mae’n syniad da creu cynefin arall i fywyd gwyllt gerllaw, fel dôl ac ardal gorsiog.  

Mae darn bychan o balmant ar gyfer gwylio neu gerrig camu yn ddefnyddiol, ond mae’n well cael llystyfiant mwy naturiol ar hyd ymyl y pwll.  

Cloddiwch eich pwll gan gadw oddi wrth wasanaethau fel pibellau nwy neu geblau trydan o dan y ddaear.

Marcio’r pwll

Gellir cloddio pyllau ar unrhyw adeg o’r flwyddyn ond cofiwch ei bod yn llawer haws pan mae’r ddaear yn wlypach ac yn feddalach.

Marciwch eich pwll gyda rhaff a bydd y pwll gorffenedig yn edrych tua dwy ran o dair o’r maint. Os oes amser, gadewch y pwll wedi’i farcio am rai dyddiau cyn dechrau cloddio i weld ei fod mewn lleoliad da.

Ceisiwch wneud y pwll mor fawr â phosib. Cloddiwch yr ardal wedi’i marcio gan greu silffoedd ac ymylon o ddyfnder amrywiol; mae 20-30cm o ddyfnder yn llesol i lawer o blanhigion. Mae’n syniad da cael traeth bas ar ogwydd yn un pen i’r pwll er mwyn i fywyd gwyllt allu mynd i mewn iddo a dod allan ohono. Mae creigiau tu mewn i’r pwll ac ar hyd yr ymyl yn ychwanegu diddordeb a chynefin gwerthfawr. Bydd llyffantod a madfallod dŵr yn nofio yno am gysgod, yn enwedig i guddio o afael crehyrod!

Cadwch y tyweirch ar gyfer ei osod ar hyd ymyl y pwll yn nes ymlaen.

Gwiriwch eich lefelau gyda lefelydd ar ymyl syth a gwneud addasiadau – rhaid i chi gael y lefelau cywir yn y cam yma. Ceisiwch wneud eich pwll rhwng 60 a 90cm yn y rhan ddyfnaf. Ond nid oes dyfnder gofynnol ar gyfer pyllau bywyd gwyllt. Mae dŵr bas yn gwneud cynefin da iawn felly mae pwll helaeth heb fod yn fwy nag 1.5 troedfedd neu 50cm o ddyfnder yn iawn.             

Cloddiwch y twll ryw 10cm yn ddyfnach na’r dyfnder gorffenedig fel bod lle i leinin a haen warchodol o dywod.

Dig the hole about 10cm deeper than the finished depth to allow for the liner and a protective layer of sand.

Sut i leinio pwll

  1. Cywasgwch y pridd a chael gwared ar gerrig a fydd yn achosi tyllau.    
  2. Gorchuddiwch y twll gyda haen o dywod - 5-10cm o ddyfnder.
  3. Gosodwch y leinin (rwber butyl neu leinin cryf, hyblyg tebyg) dros y twll a’i leoli’n ganolog. Rhowch nhw yn eu lle yn ofalus. 
  4. Gorchuddiwch y leinin gyda haen denau o is-bridd neu dywod fel bod y planhigion yn gwreiddio.
  5. Gosodwch nifer o greigiau siapiau afreolaidd yn y pwll – bydd hyn yn creu cilfachau ar gyfer bywyd y pwll.   
  6. Gwnewch ardal fasach gyda chreigiau yn un pen – y ‘traeth’.
  7. Llenwch y pwll gyda dŵr. Er mai dŵr tap yw’r ffynhonnell fwyaf ymarferol, mae dŵr glaw yn llawer mwy buddiol (gadewch i’r pwll lenwi neu gasglu dŵr o gasgen ddŵr). 
  8. Pan mae’n llawn, rhowch y leinin yn ei le mewn ‘ffos’ fas gyda phridd. Trimiwch y leinin a’r ymyl gyda’r tyweirch a gadwyd ar ôl cloddio’r pwll. Gallwch brynu tyweirch blodau gwyllt a’i roi o amgylch rhan o’ch pwll.
  9. Plannwch blanhigion ymylol a thal yn un pen y pwll fel bod cyfle i fywyd gwyllt.
  10. Efallai y byddwch eisiau rhoi cerrig camu mewn rhan o’ch pwll a gallwch osod y rhain ar wely o dywod.

I weld faint o leinin y bydd arnoch ei angen, defnyddiwch y fformiwla yma:

Hyd = hyd mwyaf y pwll gorffenedig + dwywaith y dyfnder mwyaf.
Lled = lled mwyaf y pwll gorffenedig + dwywaith y dyfnder mwyaf.

Gorffen y pwll

Llenwch yn araf – gadewch i’r dŵr wthio’r leinin i’w le. Ar ôl llenwi’r pwll, torrwch y leinin ryw 50cm oddi wrth y lefel uchaf. Gorchuddiwch gyda phridd, y tyweirch wnaethoch chi eu cadw, tyweirch blodau gwyllt neu gerrig. Ewch ati i greu pentwr o foncyffion neu gerrig gerllaw fel cysgod i amffibiaid.

Bydd y pwll yn edrych yn llwyd am ychydig ond bydd yn setlo. Efallai y gwelwch chi “ddŵr gwyrdd” blodeuo algaidd yn ystod y cyfnod hwn. Peidiwch â chynhyrfu – unwaith y bydd y planhigion wedi sefydlu, bydd hwn yn diflannu.

Plannu’r pwll

Gadewch i’r gwaddodion setlo am ychydig ddyddiau nes bod y dŵr yn glir cyn plannu. Yn aml bydd ychydig o flodeuo algaidd (“dŵr gwyrdd”) i ddechrau, ond bydd yn clirio ar ôl wythnos neu ddwy. Bydd ychwanegu chwain dŵr (Daphnia) yn helpu oherwydd mae’r rhain yn bwyta’r algâu arnofiol mân sy’n achosi hyn.                    

Does dim angen plannu pethau mewn cynwysyddion a bydd y pwll yn edrych yn fwy naturiol os byddwch yn plannu’n syth yn yr is-haen.

Planhigion tanddwr
Mae amrywiaeth dda o blanhigion tanddwr yn darparu strwythur a chysgod i lawer o greaduriaid pwll. Yn groes i’r gred gyffredin, does dim angen planhigion i ‘ocsigeneiddio’ eich pwll ond mae jyngl danddwr yn cefnogi llawer o fioamrywiaeth. Dim ond rhan fechan mae ‘ocsigeneiddwyr’ neu blanhigion tanddwr yn ei chwarae mewn ocsigeneiddio’r dŵr – bydd y gwynt yn gwneud hynny. Ond maent yn darparu cysgod a lloches i fywyd gwyllt.

  • Cyrnddail caled Ceratophyllum demersum
  • Myrdd-ddail ysbigog Myriophyllum spicatum
  • Myrdd-ddail blodau bob yn ail Myriophyllum alternifolium
  • Dyfrlysiau: Potamogeton alpinuslucensperfoliatusgramineus. Mae gan y planhigion hyn ddail lled-dryloyw hardd ac maent yn ffurfio canopi agored braf. Mae’n rhaid iddynt allu rhedeg o amgylch gwaelod y pwll ac nid ydynt yn gwneud yn dda mewn cynwysyddion. Tyfwch nhw o ddarnau o wreiddiau o dan bwysau carreg fechan. Mae P. gramineus ac alpinus yn cynhyrchu ambell ddeilen arnofiol.
  • Crafanc-y-frân y dŵr Ranunculus aquatilis (mae llawer o rywogaethau cysylltiedig sy’n eithaf tebyg).
  • Brigwlydd Callitriche stagnalis neu Callotriche hamulata (yn hoffi glannau mwdlyd).
  • Utricularia (diddorol ac os ydych chi’n lwcus fe gewch chi flodau melyn bach tlws).
  • Rhawn yr ebol fel Chara (C. virgata yw’r hawsaf ond os oes gennych chi ddŵr llawn calch mae rhai o’r rhywogaethau eraill yn werth rhoi cynnig arnynt).
  • Nitella spp.
  • Pelenllys gronynnog sy’n hawdd iawn.

Planhigion arnofiol

  • Canwraidd y dŵr Persicaria amphibia
  • Ffugalaw bach Hydrocharis morsus-ranae
  • Melyswellt arnofiol Glyceria fluitans (gall ymledu’n broblemus ac mae angen ei reoli)
  • Lili ddŵr yr ardd Hybridau caled nympheae – dewiswch rai nad ydynt yn tyfu yn rhy fawr              
  • Milwr y dŵr Stratiotes aloides (nid yw’n gynhenid i Gymru ond nid yw’n ymledol yng Ngogledd Cymru)

Osgowch linad y dŵr (rhywogaethau Lemna) gan eu bod yn gallu rheoli eich pwll os na fyddwch yn cadw llygad arnynt.

Planhigion dŵr bas sy’n codi allan o’r dŵr

  • Sgorpionllys y gors Myosotis scorpioides
  • Llafnlys bach Ranunculus flammula
  • Llafnlys Ranunculus lingua
  • Saethlys Sagittaria sagittifolia
  • Llysiau Taliesin Veronica beccabunga
  • Ffa’r gors Menyanthes trifoliatea​​​​​​

Planhigion tal sy’n codi allan o’r dŵr

  • Brwyn blodeuog Butomus umbellatus
  • Mintys y dŵr Mentha aquatica
  • Llyriad y dŵr Alisma plantago-aquatica​

Planhigion ymylol ar hyd ymyl y pwll     

  • Glesyn y coed Ajuga repens
  • Gold y gors Caltha palustris
  • Brwyn caled Juncus inflexus
  • Blodau llefrith Cardamine pratensis
  • Gellesg felen Iris pseudacorus
  • Carpiog y gors Lychnis flos-cuculi
  • Llysiau’r-milwr coch Lythrum salicaria
  • Briwlys y gors Stachys palustris
  • Sgorpionllys y gors Myosotis scorpioides

Planhigion i’w hosgoi

Mae’r planhigion hyn wedi’u gwahardd rhag cael eu gwerthu yn y DU ac ni ddylech eu rhoi yn eich pwll gan eu bod yn ymledu ac yn achosi problemau difrifol i’n dyfrffyrdd naturiol ni, sy’n costio miliynau o bunnoedd i’w clirio.

  • Corchwyn Seland Newydd neu Friweg cors Awstralia – Crassula helmsii
  • Rhedyn y dŵr neu redyn y tylwyth teg - Azolla filiculoides
  • Pluen parot – D.S. yn cael ei werthu o dan nifer o enwau eraill hefyd, gan gynnwys: Myriophyllum aquaticum, Myrdd-ddail Brasil Myriophyllum brasiliense, Myriophyllum proserpinacoides,
  • Dyfrllys Canada Elodea canadensis
  • Ffugalaw Nuttal – Elodea nuttilii
  • Ffugalaw crych -  Elodea densa/Lagarosiphon major
  • Dail-ceiniog arnofiol D.S. gall gael ei werthu fel Dail-ceiniog y dŵr - Hydrocotyle ranunculoides hefyd
  • Dail-ceiniog Seland Newydd - Hydrocotyle novae-zeelandiae
  • Briallu’r dŵr - Ludwigia grandiflora, L. hexapetala D.S. gall gael ei werthu fel Jussiaea grandiflora neu Ludwigia uruguayensis hefyd
  • Hiasinth y dŵr - Eichhornia crassipes 
  • Letys y dŵr - Pistia stratiotes
  • Pidyn-y-gog Americanaidd - Lysichiton americanus
  • Lili’r ddŵr eddïog Nymphoides peltata
  • Dylech osgoi llinad y dŵr os yw hynny’n bosib gan ei fod yn cysgodi pethau eraill.

Cynnal a chadw

  • Yr amser gorau i wneud gwaith cynnal a chadw yw diwedd mis Hydref/dechrau mis Tachwedd. Dylech osgoi gweithio yn y pwll rhwng misoedd Chwefror a Hydref, oherwydd bydd y bywyd ynddo’n brysur ac yn magu.                     
  • Ar ôl ychydig flynyddoedd bydd y planhigion yn gordyfu, ac felly rhaid cael gwared ar draean o’r planhigion tanddwr ac ymylol.
  • Gadewch y planhigion ar yr ymyl am ychydig ddyddiau ac wedyn eu compostio.
  • Daliwch ati i gael gwared ar y planhigion bob blwyddyn rhag i’ch pwll lenwi’n ormodol.
  • Does dim angen cyflwyno gwellt barlys i reoli algâu os byddwch yn cael problemau ysbeidiol. Mae’n well chwilio am ffynonellau posib o faethynnau.
  • Does dim angen cael lilis dŵr ac yn sicr does dim angen cael 40% o gysgod dail lili i gadw rheolaeth ar yr algâu.
Wild About Gardens_Ponds booklet

Lawrlwythwch ganllaw i greu pwll

Mae ychwanegu pwll yn un o’r pethau gorau y gallwch chi eu gwneud er lles bywyd gwyllt yr ardd. Ac mae pob pwll yn rhan o ddarlun mwy – gyda’n gilydd gallwn greu rhwydwaith o gynefinoedd ar gyfer ein rhywogaethau dŵr croyw sydd dan fygythiad, a’r pryfed, yr adar a’r mamaliaid sy’n dibynnu arnynt.