Sut i gymryd rhan

Village Bakery verge cutting
CEFNOGAETH CORFFORAETHOL

Sut i gymryd rhan

Mae dau fath o Bartneriaeth Naturiol ar gael:

1. Pecyn pwrpasol wedi’i greu’n arbennig ar gyfer anghenion eich busnes, neu

2. Detholiad o’n hystod o opsiynau aelodaeth corfforaethol (gweler isod).

Diddordeb?

Llenwch y ffurflen isod – neu anfon e-bost atom ni i ofyn am fwy o wybodaeth.

Mae’r ffioedd i gyd yn cael eu tynnu o’ch treth incwm

-
Ar ôl i’ch cais gael ei gymeradwyo mewn egwyddor gan ein Hymddiriedolwyr, bydd aelod o staff yn cysylltu â chi i gadarnhau pob agwedd ar y bartneriaeth. Mae pob partneriaeth yn cael ei hadnewyddu’n flynyddol.

Bydd Partneriaeth Naturiol gydag Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru’n gallu eich helpu chi gyda’r canlynol ...

  • Gwella cydnabyddiaeth gyhoeddus
  • Dangos eich ymrwymiad i fuddsoddi yn eich cymuned leol
  • Ennill achrediadau amgylcheddol cydnabyddedig
  • Denu a chadw gweithlu brwd o safon uchel
  • Rhwydweithio gyda busnesau ac unigolion eraill sydd â’r un feddylfryd
  • Tendro am gontractau mwy effeithiol, ennill cydnabyddiaeth amgylcheddol
  • Cyflawni cyfrifoldebau corfforaethol a pholisïau amgylcheddol

Mae’r manteision ymarferol a gynigir yn cynnwys ...

  • Ymgyrchoedd cysylltiadau cyhoeddus i ddathlu eich bod yn cymryd rhan ac i roi cyhoeddusrwydd i’ch cwmni
  • Sylw yn y cylchgrawn ac ar y we i’ch busnes
  • Gwasanaethau ymgynghorol amgylcheddol
  • Pecyn atyniadol o ostyngiadau i’ch staff
  • Cyfleoedd rhwydweithio corfforaethol amhrisiadwy
  • Cyfle i noddi gwarchodfeydd, digwyddiadau a phrosiectau cymunedol
  • Tystysgrif partneriaeth a llu o gyhoeddiadau am ddim
  • Cyfleoedd i wirfoddoli ac ymweliadau arbennig â’n gwarchodfeydd
  • Cyfle i gysylltu â’n miloedd o aelodau