COP15
Mae COP yn sefyll am 'Conference of the Parties' a dyma gynadleddau'r Cenhedloedd Unedig ar ei wahanol gonfensiynau. Yn 2022, mae COPs yn digwydd ar yr hinsawdd (COP27) a natur (COP15). COP15 yw lle mae arweinwyr y byd yn dod ynghyd i adolygu gweithrediad y Confensiwn ar Amrywiaeth Fiolegol (neu CBD). Cytundeb byd-eang ar gadwraeth natur yw CBD. Trwy hyn, mae 196 o bleidiau yn anelu at gytuno ar 20 targed byd-eang a fydd yn atal colli bioamrywiaeth.