Blue tit at feeder © Gillian Day
Creu bwydwyr adar naturiol eich hun a thaith gerdded natur (digwyddiad i bobl ifanc)
Gwarchodfa Natur Big Pool Wood,
GronantSir y Fflint, CH8 9JN
Manylion y digwyddiad
Ynglŷn â'r digwyddiad
Ymunwch â chymuned gynyddol o bobl ifanc cyfeillgar a helpwch i droi hwn yn fudiad ieuenctid dros newid yng Ngogledd-ddwyrain Cymru, wrth archwilio'r gwelyau cyrs a'r coetir bendigedig yng Ngwarchodfa Natur Coed y Pwll Mawr. Dewch yn agos at y bywyd gwyllt o'r cuddfannau gwylio adar a chreu eich bwydwr adar naturiol eich hun i fynd adref gyda chi!
Ar agor i bobl ifanc 16-24 mlwydd oed yn unig.
Mae hwn yn un o gyfres o sesiynau hydref y byddwn ni’n eu cynnal wyneb yn wyneb ac ar-lein, gyda'r nod o sefydlu Fforwm Ieuenctid newydd ar gyfer Gogledd-ddwyrain Cymru. Bydd yn gyfle gwych i gwrdd â phobl o'r un anian o'ch oedran chi sydd â diddordeb mewn gweithredu dros yr hinsawdd, cyfiawnder cymdeithasol a natur.
Mae y trefnydd yn siarad Cymraeg, felly defnyddiwch Gymraeg neu Saesneg yn ystod y daith.
Pwynt cyfarfod: Byddwn yn cyfarfod wrth fynedfa'r warchodfa ger yr ysgol farchogaeth. Dilynwch y llwybr bach oddi ar y ffordd ac ewch drwy'r giât wrth ymyl yr ysgol farchogaeth, byddwch yn gweld giât fach o'ch blaen wrth y fynedfa, gydag arwydd Big Pool Wood.
Bwcio
Pris / rhodd
Am ddimGwybodaeth archebu ychwanegol
Rhaid cofrestru.Ar agor i bobl ifanc 16-24 mlwydd oed yn unig.