Mon Gwyrdd youth forum wreath making © Charlotte Keen
Christmas wreath © Anna Williams NWWT
Gweithdy creu torchau naturiol (Digwyddiad i Bobl Ifanc)
Manylion y digwyddiad
Ynglŷn â'r digwyddiad
Ymunwch â chymuned gynyddol o bobl ifanc gyfeillgar a helpu i greu mudiad ieuenctid dros newid yng ngogledd ddwyrain Cymru, a hefyd rhoi cynnig ar wneud torch naturiol. Bydd y gweithdy Nadoligaidd yma’n gyfle i gymdeithasu a mynd â'ch torch wedi'i gwneud â llaw gan ddefnyddio deunyddiau naturiol sydd wedi’u casglu o'r amgylchedd adref gyda chi.
Mae hwn yn un o gyfres o sesiynau hydref y byddwn ni’n eu cynnal wyneb yn wyneb ac ar-lein, gyda'r nod o sefydlu Fforwm Ieuenctid newydd ar gyfer Gogledd-ddwyrain Cymru. Bydd yn gyfle gwych i gwrdd â phobl o'r un anian o'ch oedran chi sydd â diddordeb mewn gweithredu dros yr hinsawdd, cyfiawnder cymdeithasol a natur.
Ar agor i bobl ifanc 16-24 mlwydd oed yn unig.
Bwcio
Pris / rhodd
Am ddimGwybodaeth archebu ychwanegol
Rhaid cofrestru.Ar agor i bobl ifanc 16-24 mlwydd oed yn unig.