Prospecting swift Rachub © ben stammers.
Gweithdy hyrwyddwyr gwenoliaid duon
Manylion y digwyddiad
Ynglŷn â'r digwyddiad
Dewch i ddysgu popeth am fywydau anhygoel gwenoliaid duon a sut gallwch chi eu helpu gyda swyddog gwenoliaid duon Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, Ben Stammers.
Mae'r gweithdy yma ar agor i unrhyw un sydd â diddordeb mewn gwenoliaid duon, o ecolegwyr i edmygwyr heb unrhyw brofiad blaenorol. Bydd hyfforddiant ar sut i arolygu a chofnodi gwenoliaid duon, adnabod safleoedd nythu, gosod bocsys / brics yn eu lle a siarad dros wenoliaid duon mewn cymunedau. Bydd taflenni a dolenni’n cael eu darparu.
Bydd tê, coffi, brechdanau, byrbrydau a theisennau ar gael gan gyflenwyr bwyd Llanberis Y Pantri. Mae croeso hefyd i gyfranogwyr ymuno â'r digwyddiad Gwenoliaid Duon sy’n dilyn yn nes ymlaen yn ystod y noson a rhoi eu sgiliau gwenoliaid duon ar waith!
Mae y trefnydd yn siarad Cymraeg, felly defnyddiwch Gymraeg neu Saesneg yn ystod y daith.