Gweithdy celf gwenoliaid duon

a Swift

Swift © Ben Stammers

Gweithdy celf gwenoliaid duon

Lleoliad:
Y Festri, Goodman Street, Llanberis, Gwynedd, LL554JB
Cyfle i ddathlu gwenoliaid duon gyda phrynhawn o gelf a chrefft wedi'u hysbrydoli gan y gwenoliaid yma. Croeso i bob oed!

Manylion y digwyddiad

Pwynt cyfarfod

Cyfarfod yn Y Festri, Stryd Goodman, Llanberis, Gwynedd, LL554JB. What3Words///bandwagon.mentions.trash
View on What3Words

Dyddiad

Time
3:00pm - 5:00pm
A static map of Gweithdy celf gwenoliaid duon

Ynglŷn â'r digwyddiad

Mae'r digwyddiad yma sy’n cael ei drefnu gan Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru a Gwyrddni Dyffryn Peris yn rhan o Ddiwrnod Gwenoliaid Duon Llanberis - dathliad o aderyn arbennig iawn sydd angen ein help.

Dan arweiniad Lowri Vaughan, mae'r gweithdy'n cynnwys technegau a deunyddiau amrywiol ac mae'n agored i bawb. Bydd collage, clai a barddoniaeth wedi'i thorri ar gael i gyd ac efallai y bydd mwy o gyfryngau i weithio gyda nhw. Yn ogystal â bod yn greadigol ar y diwrnod, rydyn ni’n gwahodd pobl i ddod â'u gwaith celf eu hunain, ffotograffau, ffasiwn, cerddi, caneuon, ac ati wedi'u hysbrydoli gan wenoliaid duon i'w rhannu.

Mae gan wenoliaid duon straeon anhygoel am eu bywyd yn yr awyr ac maen nhw’n tanio dychymyg pobl ledled y byd. Maen nhw’n dod â bywyd ac egni i strydoedd Llanberis bob haf, felly ymunwch â ni i sianelu'r egni hwnnw i gelf a chymuned! Ar ôl y digwyddiad, mae croeso i gyfranogwyr aros ar gyfer gweithdy hyfforddiant gwenoliaid duon Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru - ar gyfer gwirfoddolwyr sydd eisiau darganfod sut i helpu gwenoliaid duon.

Mae y trefnydd yn siarad Cymraeg, felly defnyddiwch Gymraeg neu Saesneg yn ystod y daith.

Bwcio

Pris / rhodd

Croesawn roddion

Gwybodaeth archebu ychwanegol

Rhaid cofrestru

Yn addas ar gyfer

Teuluoedd, Oedolion, Arbenigwyr, Dechreuwyr

Gwybod cyn i chi fynd

Cŵn

image/svg+xml
Cŵn tywys yn unig
image/svg+xml

Symudedd

Adeilad celfyddydau cymunedol yw Y Festri sy'n cael ei redeg gan wirfoddolwyr - ei genhadaeth yw annog prosiectau celf yn Llanberis a'r cyffiniau. Mae'n hen neuadd ysgol Sul gyda thoiledau a chegin ond, yn anffodus, mae stepiau i fyny at y prif ddrws felly nid yw'n addas ar gyfer mynediad i gadeiriau olwyn. Does dim lle parcio ar gael ger yr adeilad chwaith.

image/svg+xml

Mynediad i gadeiriau olwyn

Nac ydyn
image/svg+xml

Beth i'w ddod

Croeso i bob oedran, ond rhaid i blant dan 11 oed fod yng nghwmni oedolyn. Gwisgwch ddillad dydych chi ddim yn poeni am eu baeddu.

image/svg+xmlP

Gwybodaeth am barcio

Does dim lle parcio ar gael ger yr adeilad chwaith.
image/svg+xmli

Facilities

Toiledau

Cysylltwch â ni

Lowri Vaughan
Rhif Cyswllt: 07850352478
Cysylltu e-bost: lowri@deg.cymru