Ble fydd fy nghoeden yn cael ei phlannu a sut bydd yn helpu?
Byddwn yn gweithio gyda ffermwyr lleol, perchnogion tir, ysgolion a grwpiau cymunedol i nodi lleoliadau ar gyfer plannu coed. Byddwn hefyd yn eu plannu yn ein gwarchodfeydd natur a gwarchodfeydd sefydliadau partner.
Bydd y coed rydyn ni’n eu plannu’n ein helpu ni i greu ac adfer coetiroedd a gwrychoedd brodorol. Byddwn hefyd yn plannu coed i wella glannau afonydd er mwyn atal erydiad a chreu coridorau bywyd gwyllt, yn ogystal ag adfer tirweddau parcdir, llethrau bryniau coediog a mwy.
Bydd hyn i gyd yn cyfrannu at wella cysylltedd bywyd gwyllt ac adferiad byd natur yng Ngogledd Cymru.
Ar hyn o bryd dim ond 15% o Gymru sy'n goedwig... y cyfartaledd Ewropeaidd yw 39%!
Gall un dderwen aeddfed gynnal mwy na 2,300 o rywogaethau o anifeiliaid, planhigion a ffyngau.
Gall coeden ddal a storio hyd at 1 tunnell o CO2 yn ystod ei hoes!
Plîs cyfrannwch heddiw!
Am bob £10 rydych chi’n ei rhoi byddwn yn plannu coeden ifanc newydd yn y dirwedd er budd adferiad natur yng Ngogledd Cymru. Does dim cyfyngiad ar nifer y coed y gallwch chi gyfrannu tuag atynt, ond cyfrannwch mewn lluosrifau o £10. Po fwyaf fyddwch chi’n ei roi, y mwyaf o goed y gallwn ni eu plannu!
Yn anffodus, ni allwn gyfateb rhoddion unigol i leoliadau plannu penodol, ond bydd pob rhodd o £10 yn gwarantu plannu un goeden newydd!
Darganfod mwy am pam a ble rydyn ni eisiau plannu mwy o goed
Pam plannu coed brodorol yn y dirwedd?
Rydyn ni’n plannu coed brodorol oherwydd eu bod yn cynnal ein rhywogaethau brodorol ac yn gallu addasu i'n tirwedd leol ac i barthau hinsawdd. Mae hyn yn darparu ecosystem iach sydd nid yn unig o fudd i fywyd gwyllt ond hefyd i bobl a’n tirwedd fyw.
Mae coed yn helpu i leihau llifogydd drwy weithredu fel sbyngau naturiol, amsugno glawiad ac arafu cyfradd y dŵr yn taro'r ddaear. Yn y cyfamser, mae systemau gwreiddiau cymhleth yn gwella hydreiddedd y pridd - gan alluogi i ddŵr suddo i'r ddaear - gan glymu’r pridd at ei gilydd i atal erydiad a dŵr ffo arwyneb.
Yn ogystal, mae coed yn helpu i ddal a storio carbon deuocsid drwy ei amsugno a'i storio o'r atmosffer, sy'n helpu i gyfrannu at liniaru cynhesu byd-eang a gall helpu i reoleiddio microhinsoddau lleol drwy oeri'r aer drwy drydarthiad.
Pa rywogaethau o goed ydyn ni'n eu plannu?
Byddwn yn plannu rhywogaethau brodorol a naturiol o goed, gan gynnwys derw, criafol, helyg, pinwydd yr Alban, castanwydd pêr a mwy. Bydd rhai rhywogaethau o goed yn ffafrio lle maen nhw’n tyfu, a dyma pam y byddwn ni’n canolbwyntio ar blannu'r goeden iawn yn y lle iawn. Er enghraifft:
- bydd helyg a gwerni’n cael eu plannu ar hyd afonydd a safleoedd gwlypach,
- criafol a bedw mewn safleoedd mwy ucheldirol ac fel rhan o greu coetir cymysg,
- derw, cyll, drain gwynion mewn gwrychoedd, parcdiroedd, ysgolion a mannau cymunedol yn ogystal â chyfoethogi coetiroedd presennol.
Pryd mae'r coed yn cael eu plannu a sut ydyn ni'n cael gwybod?
Bydd y rhan fwyaf o goed yn cael eu plannu yn ystod misoedd yr hydref a'r gaeaf pan fydd y coed yn cysgu.
Ar ddiwedd y tymor plannu o tua mis Ebrill, byddwn yn cyhoeddi ein cyfrif plannu coed ynghyd â lleoliadau bras y coed yn y dirwedd.
Cymryd rhan
Mae ein coed yn cael eu tyfu yn ein meithrinfeydd coed ger yr Wyddgrug a Phenrhyndeudraeth. Maen nhw’n cael eu cynnal gan ein tîm o staff a gwirfoddolwyr, ac rydyn ni’n sicrhau hadau a thoriadau coed o bob rhan o Ogledd Cymru.
Os hoffech chi gael gwybod mwy neu gymryd rhan yn ein gwaith tyfu a phlannu coed, cysylltwch â Sarah.Ellis@NorthWalesWildlifeTrust.org.uk