Darganfyddwch sut rydym yn pontio gyda cymunedau lleol
Mae’r prosiect Bangor Gwylltach yn adeiladu’n uniongyrchol ar waith ymgynghori lleol ac yn ymateb i beth maw cymunedau ym Mangor wedi dweud wrthym maent ei angen o leoliadau natur leol i gysylltu yn well gyda natur.
Mae’r prosiect ar hyn o bryd yn gweithio gyda chymunedau o gefndiroedd ethnig a’r gymuned LHDTC+ ym Mangor. Ein nod ydi i godi ymwybyddiaeth o’n lleoliadau awyr agored lleol, cefnogi pobl i deimlo’n fwy hyderus eu defnyddio, ac i greu cyfleoedd ystyrlon ar gyfer pobl o gefndiroedd gwahanol i gysylltu gyda natur ac efo’r gilydd. Gyda hyn, mae’r prosiect yn cefnogi dysgu anffurfiol ac adeiladu hyder yn Gymraeg a Saesneg, gan ddefnyddio natur fel pwynt dechrau croesawgar wedi ei rannu.
Beth rydym yn ei neud
Trwy’r prosiect chwe mis hwn, mi fyddwn yn cynnig rhaglen o weithgareddau cynhwysol ac sydd wedi cael eu cyd-gynllunio, gan gynnwys:
- Sesiynau crwydro-a-chlebran, yn cyflwyno bywyd gwyllt lleol a lleoliadau natur ym Mangor
- Sgyrsiau thematig (ar-lein ac mewn person) wedi eu cynnal gyda grwpiau cymunedol, yn ffocysu ar bynciau o ddiddordeb i gymunedau
- Ffair Natur, i ddathlu cysylltiadau, creadigrwydd a chymuned trwy weithdai wedi eu cyd-gynllunio, gyda chefnogaeth gan Fran Wen
Cwrdd â thîm Bangor Gwylltach!
Dr Tomos Jones - Rheolwr Prosiect
Astudiodd Tomos ym Mhrifysgol Bangor ac mae wedi byw yn y ddinas am y pum mlynedd diwethaf gyda brwdfrydedd cynyddol dros ei harddwch a'i lleoliadau natur. Mae Tomos yn mwynhau rhoi cyfle i bobl archwilio natur ar eu stepen drws, boed hynny'n dod o hyd i blanhigyn newydd neu'n dysgu sut i adnabod bywyd gwyllt cyffredin. Yn ei amser hamdden, mae'n arddwr a rhedwr brwd.
Lewis Bainbridge - Swyddog Prosiect
Astudiodd Lewis Seicoleg yn y brifysgol, gyda ffocws ar y berthynas rhwng pobl, lles a natur. Mae ei angerdd yn canolbwyntio ar helpu pobl i feithrin cysylltiadau ystyrlon â'r byd naturiol ac ar ymgysylltu'n wirioneddol â chymunedau, gwrando, cydweithio a llunio gwaith ochr yn ochr â phobl fel bod natur yn teimlo'n hygyrch, yn berthnasol ac yn groesawgar i bawb.
Yn dod yn fuan! – Map Natur Bangor
Rydym yn datblygu dau fap newydd i helpu pobl i archwilio, cysylltu â, a mwynhau'r ardal leol.
Bydd y map cymunedol y gellir ei argraffu yn ganllaw clir a hawdd ei ddefnyddio i fannau, llwybrau a chyfleoedd lleol. Mae wedi'i gynllunio i'w rannu'n hawdd gyda grwpiau cymunedol, sefydliadau, neu unrhyw un sy'n newydd i'r ardal.
Bydd y map rhyngweithiol ar-lein yn caniatau i chi archwilio'n fanylach, gan eich helpu i wirio hygyrchedd llwybrau a darganfod ffeithiau diddorol am fywyd gwyllt, cynefinoedd a nodweddion naturiol lleol.
Yn dod yn fuan! – Podlediadau
Bydd podlediad yn lle ar gyfer sgyrsiau agored, dychmygus gyda phobl sy'n gofalu'n fawr am eu cymunedau. Wedi'i ysbrydoli gan hunaniaeth arfordirol Bangor, mae'r podlediad yn adlewyrchu'r ffordd y mae straeon a phrofiadau'n teithio, yn cysylltu, ac yn dod o hyd i dir newydd. Trwy sgyrsiau hamddenol ac awgrymiadau ysgafn, bydd y podlediad yn archwilio syniadau arweinyddiaeth, perthyn, a gofalu am leoedd a phobl, heb ddibynnu ar gyfweliadau ffurfiol nag iaith dechnegol.
Diolch yn fawr i Brifysgol Bangor am ein cynnal a darparu mynediad i'w stiwdio podlediad, gan ei gwneud hi'n bosibl recordio'r sgyrsiau hyn mewn amgylchedd croesawgar a phroffesiynol.
Cysylltwch â ni:
Gyda chymorth gan:
Cyllidwyd gan: