Arfer gorau ffotograffiaeth bywyd gwyllt

Coal tit looking in a camera

Coal tit looking in a camera © Bob Coyle

Arfer gorau ffotograffiaeth bywyd gwyllt

Gofalu am anifeiliaid

Gofal gyda fflach

Mae anifeiliaid yn sensitif iawn i olau a gallant gael eu dychryn neu eu dallu dros dro gan fflach cryf. Os nad yw'r amodau golau yn dda, camera golwg nos yw'r opsiwn gorau.

Peidiwch â mynd yn rhy agos

Mae anifeiliaid yn debygol o ddioddef straen a phanig os byddwch chi'n mynd yn rhy agos at eu cartref. Gallant deimlo bod rhaid iddyn nhw adael eu lleoliad hyd yn oed. Gall hyn arwain at ganlyniadau angheuol, yn enwedig os oes rhai bach yn y cartref. Mae angen trwydded i dynnu lluniau anifeiliaid mewn rhai amgylchiadau.

Byddwch yn ofalus lle rydych chi'n troedio

Cadwch at lwybrau neu draciau dynodedig. Bydd hyn yn golygu eich bod chi'n llai tebygol o niweidio cynefin neu darfu ar fywyd gwyllt sy'n agored i niwed. Efallai eich bod chi ar safle gwarchodedig fel SoDdGA lle na ddylid tarfu ar y ffawna a'r fflora.

Rhywogaethau gwarchodedig

Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n gwybod beth yw statws gwarchodedig rhywogaethau rydych chi'n tynnu eu llun a'r deddfau sy'n eu gwarchod. Gall tynnu lluniau o rai rhywogaethau yn ystod y tymor magu gael ei ystyried yn drosedd.

Peidiwch â defnyddio abwyd tâp

Gall chwarae cri neu gân i adar, yn enwedig adar ar nyth, amharu ar eu hymddygiad naturiol a rhoi eu cywion mewn perygl.

Defnyddio dronau

Mae dronau'n cael eu defnyddio fwyfwy at ddibenion hamdden ac ar gyfer ymchwil, monitro ac arolygu amgylcheddol. Maen nhw’n profi i fod yn ffordd werthfawr o arolygu safleoedd sydd fel arall yn anhygyrch neu'n gostus iawn i'w harolygu, ac yn darparu golwg newydd ar ein gwarchodfeydd natur anhygoel ni. Mae hedfan dronau’n cael ei reoli gan ddeddfwriaeth. Felly, er bod hedfan dros ein gwarchodfeydd natur ni’n bosibl, mae angen ein caniatâd ni i lansio o'r gwarchodfeydd natur. Os ydych chi'n bwriadu hedfan drôn dros un o'n gwarchodfeydd natur, rhowch wybod i ni, er mwyn i ni allu sicrhau gyda'n gilydd bod bywyd gwyllt yn cael ei warchod.

Rhowch les yr anifail yn gyntaf bob amser.

Mae ffotograffiaeth yn un o'r nifer o ffyrdd y gallwch chi fynd allan a chofleidio'r gwyllt. Boed yn cofnodi ymddygiadau diddorol anifeiliaid, cynefinoedd bywyd gwyllt syfrdanol neu integreiddio pobl a byd natur - mae amsugno bywyd gwyllt drwy'r lens yn ffordd wirioneddol wych o gysylltu ein hunain yn fwy â byd natur.