Great Orme goat © Helen Carter-Emsell
Taith Gerdded y Gaeaf yng Ngwarchodfa Natur Y Gogarth
Gwarchodfa Natur Gogarth,
Llandudno, Sir Conwy, LL30 2XAManylion y digwyddiad
Ynglŷn â'r digwyddiad
Ar ôl cyfarfod wrth yr ardal chwarae a'r toiledau cyhoeddus ar Draeth y Gorllewin, byddwn yn cychwyn ar daith gerdded ar hyd y llwybr creigiog uwchben Marine Drive cyn dod i lawr i Marine Drive. O’r fan yma, byddwn yn dal i fynd i fyny at yr ardal wylio ac eistedd sy'n edrych dros Gwarchodfa’r Gogarth, lle gallwn orffwys a mwynhau'r golygfeydd gwych cyn mynd yn ôl i lawr Marine Drive i'r traeth.
Mae'r daith gerdded yma’n tua 2.5 milltir i gyd.
Mae’r digwyddiad yma’n rhan o’n prosiect Natur yn Cyfrif ni. Yn ystod ein digwyddiadau, rydyn ni’n cofnodi'r rhywogaethau rydyn ni’n eu darganfod fel rhan o brosiect gwyddoniaeth y dinesydd i'n helpu ni i reoli ein gwarchodfeydd natur a'n cynefinoedd lleol. Mae prosiect Natur yn Cyfrif yn cael ei gyllido gan y Gronfa Dreftadaeth a Llywodraeth Cymru.