Cefnogi Brics Gwenoliaid Duon yng Nghymru

A swift screaming party, 4 swifts, small birds with scythe shaped wings sillhouetted against a blue sky.

Swift screaming party, Rhostrehwfa. © Ben Stammers NWWT

Cefnogi Brics Gwenoliaid Duon yng Nghymru

Ydych chi eisiau helpu gwenoliaid duon i adfer yng Nghymru? Cefnogwch ddeddfwriaeth i sicrhau bod bricis gwenoliaid duon yn cael eu gosod ym mhob adeilad newydd yng Nghymru.

Yn 2024, lansiodd Julia Barrell ddeiseb yn annog Llywodraeth Cymru i'w gwneud yn ofynnol i Frics Gwenoliaid Duon gael eu gosod ym mhob adeilad newydd. Gyda chefnogaeth Ymddiriedolaethau Natur Cymru, RSPB Cymru, a grwpiau cymunedol, gan gynnwys Fforwm Ieuenctid Môn Gwyrdd, bydd yr ymgyrch hon yn cael ei thrafod yn y Senedd ar ddydd Mercher 1 Hydref 2025.

Gwylio’r drafodaeth yn fyw

Mae gwenoliaid duon yn adar rhyfeddol. Maen nhw’n treulio eu hoes gyfan bron yn hedfan, gan gynnwys bwyta, cysgu a pharu wrth hedfan – ac mae eu cri atgofus yn diffinio ein haf ni. Yn anffodus, mae'r gri yma'n pylu, gan mai gwenoliaid duon yw'r rhywogaeth sy'n dirywio gyflymaf yng Nghymru bellach, gyda’r niferoedd wedi gostwng 75% ers 1999. Mae mwy na hanner ein gwenoliaid duon ni wedi cael eu colli yn ystod y degawd diwethaf yn unig.

Mae gwenoliaid duon yn nythu mewn ceudodau mewn adeiladau – jyst o dan linell y to yn aml. Ond mae gwaith adnewyddu ac adeiladau newydd yn cael gwared ar y safleoedd nythu hanfodol hyn yn gyflym.

Ymunwch â ni i alw ar y Senedd i gefnogi'r ddeiseb hon. Mae Brics Gwenoliaid Duon yn newid bach sy’n cael effaith enfawr – ar wenoliaid duon, ac ar fyd natur yng Nghymru.

Cysylltwch â’ch Aelod lleol o’r Senedd (Cyfeirnod: Deiseb P-06-148)

Mae Iolo Williams, naturiaethwr, awdur a chyflwynydd teledu adnabyddus o Gymru, ac is-lywydd Ymddiriedolaethau Natur, yn galw ar Aelodau'r Senedd i gefnogi Brics Gwenoliaid Duon yng Nghymru.

Pam Brics Gwenoliaid Duon?

Mae Brics Gwenoliaid Duon yn darparu safleoedd nythu diogel, hirdymor i wenoliaid duon a rhywogaethau eraill fel gwenoliaid y bondo ac adar y to. Dyma fanylion amdanyn nhw:

· Costio cyn lleied â £25 yr uned
· Dim angen gwaith cynnal a chadw
· Para am oes yr adeilad
· Hawdd eu gosod yn eu lle fel rhan o waith adeilad

Mae rhai cymdeithasau tai yng Nghymru yn eu defnyddio eisoes - sy'n profi eu bod yn ymarferol ac yn effeithiol
 

Mae brics gwenoliaid duon wedi cael eu profi fel adnoddau effeithiol. Dydyn nhw ddim yn amharu ar strwythur na chapasiti thermal yr adeilad mewn unrhyw ffordd. Er mwyn bod ag unrhyw obaith o adfer eu niferoedd mae angen brics gwenoliaid duon ym mhob tŷ newydd. Mae'n syml, yn rhad a dyma’r peth iawn i'w wneud.
Dick Newell
Gweithredu dros Wenoliaid Duon

Cefnogaeth Gymunedol
Ledled Cymru, mae pobl yn cymryd camau gweithredu: gosod bocsys nythu yn eu lle, monitro gwenoliaid duon, a lledaenu ymwybyddiaeth. Mae hyn yn cynnwys 13 o grwpiau gwahanol o wenoliaid duon yng Nghymru, o'r Waun i Abertawe. Ond dydyn nhw ddim yn gallu gwneud hynny ar eu pen eu hunain - rhaid i Lywodraeth Cymru arwain.

Datrysiad Ehangach
Ochr yn ochr â safleoedd nythu, mae angen cynefinoedd sy'n llawn pryfed ar wenoliaid duon. Mae ffermio sy'n gyfeillgar i fyd natur ac afonydd iach yn elfennau hanfodol o'r darlun, ond rhaid i Frics Gwenoliaid Duon fod yn un o'r nifer o gamau angenrheidiol sy’n cael eu cymryd i adfer bioamrywiaeth.

Beth Am i Ni Weithredu
Ni ddylai Brics Gwenoliaid Duon gymryd lle’r mesurau eraill sy'n ofynnol gan y Budd Net ar gyfer Bioamrywiaeth, ond eu hategu, gan gynnig budd mesuradwy ar unwaith. Mae'r brys yn glir, ac mae'r cyfle’n bodoli.

I mi, mae gwenoliaid duon hefyd yn cynrychioli cysylltiad cymunedol ac rydw i'n gallu creu cysylltiad â phobl yn fy nghymuned i dros ein dyhead ni i wylio a gwarchod gwenoliaid duon.
Ellen Williams
aelod o Fforwm Ieuenctid Môn Gwyrdd

Cyw gwennol ddu yn cael ei fwydo y tu mewn i fricsen gwenoliaid duon, Y Waun, 2024 (Hayley Garrod)