Prif Swyddog Gweithredol

Prif Swyddog Gweithredol

Diwrnod cau:
Cyflog: c. £75 K pa
Math y cytundeb: Parhaol / Oriau gweithio: Llawn amser
Hybrid
Ydych chi'n arweinydd llawn gweledigaeth? A fyddech chi'n gallu sicrhau dyfodol cadarn i Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru?
Mae hwn yn gyfnod cyffrous ac rydyn ni’n chwilio am Brif Swyddog Gweithredol newydd i ymuno â ni!

Rydyn ni’n awyddus i glywed gan bobl fedr ddarparu arweinyddiaeth strategol a gweithredol sy'n sicrhau bod yr Ymddiriedolaeth yn cyflawni ei hamcanion elusennol ac yn cyflwyno ei chenhadaeth yn effeithiol ac yn gynaliadwy wrth barhau i dyfu. Mae hyn yn cynnwys siapio a gweithredu'r cynllun strategol, rheoli pobl ac adnoddau, cynnal iechyd ariannol, a meithrin perthnasoedd cadarn gyda'i haelodau, rhanddeiliaid eraill, cyllidwyr, a'r gymuned ehangach. Byddwch yn gyfrifol yn y pen draw am lywodraethu, codi arian, ymddiriedaeth y cyhoedd ac effaith gymdeithasol Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru. Un rhan bwysig o'r rôl hon yw sicrhau ein bod ni’n chwarae ein rhan fel aelod gweithredol o ffederasiwn yr Ymddiriedolaethau Natur i helpu i sicrhau buddugoliaethau i fywyd gwyllt y tu hwnt i'n ffin.

Bydd y rôl yn hybrid (ar ôl cyfnod sefydlu) ac yn ddelfrydol byddwch wedi eich lleoli yng Ngogledd Cymru gan fod gennym gyfleusterau swyddfa ar gael ym Mangor neu Aberduna. Bydd teithio rheolaidd i gyfarfodydd oddi ar y safle.

Am bwy rydyn ni’n chwilio

  • Uwch reolwr profiadol gyda gradd (neu gymhwyster cyfatebol i radd).
  • Profiad o arweinyddiaeth sefydliadol o fewn sefydliad sy'n atebol yn ariannol, boed yn y sector elusennol, cyhoeddus neu breifat.
  • Profiad clir o strategaeth fasnachol / busnes, gyda'r gallu i gynhyrchu a rheoli ffrydiau incwm amrywiol, gan gynnwys drwy bartneriaethau, grantiau, masnachu, neu weithgareddau eraill sy'n gysylltiedig â busnes.
  • Profiad gydag ystod eang o randdeiliaid a phartneriaid a gweithio gyda hwy i gyflawni amcanion y rhaglen.
  • Galluoedd data a TG cadarn.
  • Siaradwr cyhoeddus da gyda sgiliau cyflwyno cadarn.
  • Profiad rhagorol o Reoli Prosiectau.
  • Dealltwriaeth gref o faterion amgylcheddol, gyda throsolwg eang o agweddau allweddol ar ecoleg, cadwraeth, amaethyddiaeth, pysgota, newid hinsawdd a phwysau amgylcheddol eraill.

Nid yw sgiliau yn y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon ond maent yn ddymunol iawn. Rydyn ni’n disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus, os nad yw eisoes yn rhugl, ymrwymo i ddysgu'r Gymraeg a dangos dealltwriaeth gref o ddiwylliant Cymru a chefnogaeth iddo, sy'n rhan annatod o'n gwaith ni ym maes rheoli tir ac adferiad byd natur.

Rydyn ni’n falch o gynnig amrywiaeth eang o fuddion gan gynnwys:

  • Pecyn adleoli dewisol hyd at £10k o ad-daliad yn erbyn derbynebau am dreuliau symud.
  • Cynllun bonws dewisol hyd at 10% o'r cyflog y flwyddyn, yn seiliedig ar gyflawni targedau perfformiad hirdymor y cytunwyd arnynt.
  • 32 diwrnod o wyliau y flwyddyn, gan gynnwys Gwyliau Banc statudol, sy'n cynyddu un diwrnod am bob blwyddyn o wasanaeth sydd wedi'i chwblhau'n llawn hyd at uchafswm o 38 diwrnod.
  • Pensiwn Cyfnewid Cyflog (6% cyfraniadau ER – 6% cyfraniadau EE).
  • Yswiriant Bywyd (2x cyflog).
  • Ni’n talu am ddysgu Cymraeg.

Rydyn ni’n gwerthfawrogi angerdd, parch, ymddiriedaeth, integriti, ymgyrchu pragmatig a chryfder mewn amrywiaeth. Rydyn ni’n angerddol wrth hyrwyddo ein hamcanion, nid ydym yn feirniadol ac rydyn ni’n gynhwysol. Rydyn ni’n annog ceisiadau yn arbennig gan bobl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn ein sector, gan gynnwys pobl o gefndiroedd lleiafrifol a phobl ag anableddau. Rydyn ni wedi ymrwymo i greu mudiad sy'n cydnabod ac wir yn gwerthfawrogi gwahaniaethau a hunaniaethau unigol.

Rydyn ni’n cymryd ein cyfrifoldebau Diogelu o ddifrif. Cliciwch yma i ddarllen ein datganiad ymrwymiad. Efallai y bydd angen archwiliad DBS ar gyfer y rôl hon.

Sut i wneud cais

Mae Disgrifiad Swydd llawn a Phecyn Recriwtio i'w gweld isod.

Atodwch CV llawn ynghyd â llythyr eglurhaol yn manylu pam mae gennych ddiddordeb yn y cyfle hwn a pham y byddech yn addas ar gyfer y rôl a'r sefydliad wrth gyflwyno eich manylion drwy ddilyn y ddolen isod.