Rydyn ni'n gynnig cwrs hyfforddiant cadwraeth a newid hinsawdd am ddim i 12 o bobl ifanc ar draws Ynys Môn a Bangor yr haf hwn!
Trwy ein rhaglenni ieuenctid arloesol, rydyn ni wedi bod yn dod â phobl ifanc o bob rhan o Ogledd Cymru yn nes at y bywyd gwyllt rhyfeddol sy’n bodoli ar garreg eu drws a’u hysbrydoli i sefyll i fyny a gweithredu fel ceidwaid yr amgylchedd naturiol. Bellach yn ei seithfed flwyddyn, mae ein Hyfforddeiaeth Cadwraeth a Newid Hinsawdd yn cynnig cwrs hyfforddiant wythnos o hyd unigryw i bobl ifanc (16-24 oed) sy'n byw ar draws Ynys Môn a Bangor.