Y cyffro'n parhau yn Llyn Brenig wrth i'n gweilch y pysgod ni setlo ar gyfer tymor magu'r haf

Y cyffro'n parhau yn Llyn Brenig wrth i'n gweilch y pysgod ni setlo ar gyfer tymor magu'r haf

Fel rhan o ddechrau llawn cyffro i'r tymor magu yn Llyn Brenig mae gweilch y pysgod gwrywaidd wedi bod yn cystadlu am y nyth, wyau wedi’u dodwy... ac wyau wedi cael eu taflu allan!

Hyd yma, mae tymor gweilch y pysgod 2025 yn Llyn Brenig wedi canolbwyntio ar dri chymeriad canolog; benyw (372) a dau wryw (LJ2 a 416). Cyrhaeddodd 372 ar 24ain Mawrth ac yn wreiddiol fe barodd gyda 416, gan ddodwy tri ŵy erbyn 21ain Ebrill. Ond wedyn, fe wnaeth LJ2, y gwryw preswyl, herio ac ennill rheolaeth ar y nyth - gan daflu tri ŵy 416 allan! Wedyn fe wnaeth 372 ddodwy ŵy arall gydag LJ2 ar 26ain Ebrill. Er mor drist yw gweld wyau'n cael eu dinistrio fel hyn, mae'n rhan o ymddygiad magu naturiol y gwrywod ac mae cael nifer o adar yn cystadlu am ein safleoedd nythu ni fel hyn yn arwydd gwych o gyflwr cynyddol iach eu poblogaeth nhw yng Ngogledd Cymru.

Beth am ddod i ryfeddu at y gweilch y pysgod drosoch chi’ch hun?
Mae ein llecyn gwylio ni yn Llyn Brenig ar agor i chi bellach, i gwrdd â'n harbenigwyr a gweld y nyth drwy ein sbienddrych a'n telesgopau. Gallwch hefyd weld y gweilch yn agos yng nghuddfan arbennig Dŵr Cymru sydd o fewn 150m i'r nyth! Mae'r guddfan sydd newydd ei hadnewyddu yn cynnwys gwydr unffordd, snŵds, gimbalau a seddi cyfforddus hyd yn oed. Bydd staff a gwirfoddolwyr Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru wrth law i ateb unrhyw gwestiynau am y gweilch y pysgod. Gall grwpiau o hyd at bedwar archebu lle yn y guddfan ar gyfer sesiynau ffotograffiaeth estynedig ar ddyddiau Mercher a Gwener neu sesiwn gyhoeddus awr o hyd ar benwythnosau.

Mae mwy o wybodaeth a chyfle i gynllunio eich ymweliad ar gael yma