Cafodd ein prosiect Dihangwyr Gerddi, a ddaeth i ben yn 2026, ei gynllunio i ymgysylltu â garddwyr er mwyn atal lledaeniad rhywogaethau ymledol; fel rydym yn aml yn ei ddweud, mae 'atal yn well na gwella'.
Mae enghreifftiau o blanhigion gardd poblogaidd – nad ydynt yn ymledol ar hyn o bryd ond sydd â'r potensial i fod felly – yn cynnwys gwyddfid y bachgen llwm (Leycesteria formosa), mantell Fair (Alchemilla mollis) ac amrhydlwyd y cerrig (Erigeron karvinskianus).
Drwy'r prosiect hwn, rydym:
- Wedi cyrraedd dros 25,000 o bobl ar-lein ac mewn 34 o ddigwyddiadau
- Wedi hyfforddi dros 130 o weithwyr proffesiynol ym maes garddwriaeth
- Wedi gweithio gyda dros 15 o sefydliadau
- Wedi lansio arddangosfa gelf o'r enw Tu Hwnt i'r Ffin: Gwreiddiau'n Dianc o Erddi. Archwiliwch fersiwn ddigidol yma
- Wedi arolygu 130 hectar o safleoedd gwarchodedig a gwarchodfeydd natur YNGC i chwilio am rywogaethau a allai fod yn ymledol
- Wedi cyflwyno dros 3,000 o gofnodion planhigion newydd i Cofnod
- Wedi nodi 20 rhywogaeth a allai fod yn ymledol
- Wedi lansio ein Pecyn Cymorth i Arddwyr amlgyfrwng, sy'n cynnwys proffiliau 15 planhigyn, wyth fideo, canllawiau, awgrymiadau defnyddiol a chalendr
© David Setter | NWWT
Pecyn Cymorth Garddwyr
Mae Adroddiad Monitro a Gwerthuso'r prosiect hwn i'w weld yma. Mae'r atodiadau ar gael ar gais.
Gallwch hefyd gysylltu efo ni:
®Lottery Heritage Fund in partnership with Welsh Government