Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru yn troi at ffibr cyflawn i amddiffyn ein bywyd gwyllt

Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru yn troi at ffibr cyflawn i amddiffyn ein bywyd gwyllt

Mae wedi cael band eang cyflym iawn yn ein swyddfa yn y Dwyrain (Gwarchodfa Natur Aberduna) wedi trawsnewid y ffordd mae Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru yn gweithio.

Yn ddiweddar gwnaethom gydweithio gyda chyflenwr rhwydwaith ddigidol, Openreach, i gysylltu ein swyddfa gwledig yn Maeshafn ger Yr Wyddgrug hefo un o’r bandiau eang cyflyma a’r mwyaf ddibynadwy yn Ewrop.  Er mwyn i fywyd gwyllt oroesi, rydym yn frwdfrydig i weld Rhwydweithiau  Adferiad Natur, ble fydd cynefinoedd yn ehangach, yn well ac wedi eu cysylltu yn fwyfwy.  Mae’r gefnogaeth rydym wedi gael gan Openreach wedi’n helpu ni gysylltu’n ddigidol hefyd.

Mae llawer o’n gwaith ni o ddydd i ddydd yn bwyta data, er enghraifft darparu gwaith mapio am archwiliadau amgylcheddol ar ran datblygwyr, neu at ein gwaith gyda tir feddianwyr ble rydym yn nodi tir am welliannau bywyd gwyllt.  Cyn i ni gael y cysylltiad newydd, fe oedd rhaid i’n staff adael y swyddfa yn Maeshafn er mwyn llawr-lwytho dogfennau o adref – ble roedd cyflymder eu band eang yn gynt ac yn fwy ddibynadwy nac yn y swyddfa.  Mae ein cyswllt newydd wedi rhoi swyddfa mwy effeithlon i’n staff a’n gwirfoddolwyr. 

Frances Cattanach, Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, yn egluro:

“Mae’r Ymddiriedolaeth yn debyg i gyrff a busnesau eraill wrth weithio ar-lein a defnyddio adnoddau digidol. O rannu adnoddau i gofnodi ein cyllid, mae pob peth yn symud i’n gyriant canolog ac roedd y band eang gwael yn achosi problemau.”

“Yn ystod y cyfnod clo roedd cyfathrebu a chydweithio gan y tîm wedi gwella oherwydd roedd ein gwasanaethau band eang cartref yn well nag un y swyddfa.

“Nid yw gweithio gartref llawn amser yn opsiwn am fod rhaid bod ar safle Maeshafn ond mae’r cysylltiad newydd a osodwyd gan beirianwyr Openreach yn golygu gallwn ddychwelyd i’r swyddfa i wneud ein gwaith.”

“Gofynnwyd Openreach am ateb i’r broblem ac mae ei beirianwyr wedi bod yn wych. Mae cael band eang ffibr cyflym a dibynadwy yn golygu gallwn wneud cymaint mwy. Mae llunio arolygon effeithiau amgylcheddol a mapiau digidol yn arfau hanfodol er diogelu cynefinoedd naturiol, felly mae gallu eu gwneud yn y swyddfa - ac osgoi gorfod mynd adref i ddefnyddio band eang - yn help mawr.”

“Fel corff, mae hefyd yn bwysig galluogi ein tîm - sy’n aml ar hyd a lled y gogledd - i gyfathrebu’n effeithiol er mwyn cydweithredu. Mae band eang ffeibr wedi hwyluso hynny ac rydym mor falch o’r drefn newydd.”

Gwyliwch y fideo

Aberduna Nature Reserve with Openreach

Aberduna Nature Reserve © Openreach