Cors Marchwiel wedi’i hadfer!

Cors Marchwiel wedi’i hadfer!

Yn gynharach yn ystod y flwyddyn aeth prosiect Tirwedd Fyw Stad Ddiwydiannol Wrecsam ati i adfer Cors Marchwiel ger Wrecsam.
Marchwiel Marsh, Wrexham - Before

© NWWT

Cyn

Marchwiel Marsh, Wrexham

© NWWT Henry Cook

Ar ôl

Yn gynharach yn ystod y flwyddyn aeth prosiect Tirwedd Fyw Stad Ddiwydiannol Wrecsam ati i adfer Cors Marchwiel ger Wrecsam. Dyma safle sydd â llwybr pren, dôl wlyb, coed helyg tal a chyrs. Arferai fod â phyllau oedd yn enwog am eu madfallod dŵr cribog; rhywogaeth flaenoriaeth yn lleol ac yn ehangach ledled Cymru. Mae gan ranbarth Wrecsam un o’r poblogaethau mwyaf o’r rhywogaeth yn Ewrop gyfan. Mae’r madfallod hyn wedi’u nodweddu gan eu maint mawr, a’u croen tywyll, lympiog, eu bol oren gyda smotiau a hefyd y ‘grib’ fel mae’n cael ei galw sy’n rhedeg i lawr asgwrn cefn y gwrywod, sy’n gwneud iddyn nhw edrych fel deinosoriaid bychain!

A great crested newt, an amphibian with dark brown slightly mottled skin, bright orange belly with brown spots, and tiny white dots on it's side, limbs and face. It has a long flat tail that appears to be in 3 parts horizontally, and a crest all the way along it's back looking almost like a very small jagged fin. This particular newt is floating in water with it's left side and belly facing the camera and left arm raised as though waving.

Great Crested Newt/Madfall ddwr gribog © TWT

Nid oedd unrhyw un wedi cyffwrdd yn y pyllau am flynyddoedd ac roedd eu haddasrwydd ar gyfer y madfallod dŵr yn lleihau wrth i amser fynd heibio.
Henry Cook, Swyddog Tirwedd Byw

Am wythnos roedd cloddiwr ar y safle, yn gweithio ar gynllun i greu pyllau o ddyfnderoedd amrywiol. Roedd gan y pyllau i gyd ymylon serth fel bod posib i anifeiliaid ddod allan o’r dŵr pan maent yn sychu rhywfaint yn yr haf.  Cafodd dau bwll arall eu hadfer i fanylder tebyg a chloddiwyd pwll newydd sbon, gan gynyddu’r cyfleoedd i’r madfallod dŵr fagu’n llwyddiannus. Nid oedd hwn yn waith hawdd o gwbl a bu bron i’r cloddiwr fynd yn styc yn y mwd un diwrnod, gan fod cymaint o slwtsh yn dod o’r cyrs yn pydru. 

Digger at Marchwiel Marsh - Wrexham

Digging out a pond/cloddio pwll © NWWT

Cafwyd ymweliad gan dîm gwirfoddoli’r Ymddiriedolaeth Natur a chafwyd diwrnod cynhyrchiol iawn yn trwsio’r llwybr pren ac yn torri’r egin-goed helyg oedd yn ymledu. Roedd yn achos o sawl pâr o ddwylo’n well nag un ac mae’n dangos pa mor bwysig yw ein gwirfoddolwyr gwych ni i gadwraeth natur. Un cyffyrddiad terfynol oedd ychwanegu cynefin nythu artiffisial ar gyfer y madfallod dŵr er mwyn ychwanegu at ychydig o lystyfiant oedd ar ôl ym mhob pwll. Gwnaed hyn drwy rwygo bag bin yn ddarnau a’i glymu ar ffon i’w roi yn y dŵr dyfn; ateb syml nes bod yr holl blanhigion yn y pwll yn tyfu’n ôl, gyda bonws ychwanegol o edrych fel môr-leidr wrth ei osod yn ei le!               

Artificial newt breeding habitat/Cynefin bridio madfall artiffisial - Marchwiel Marsh, Wrexham

Artificial newt breeding habitat/Cynefin bridio madfall artiffisial © NWWT

Ar ôl gwneud hyn i gyd, cafodd y gymuned leol wybod am y gwaith ac roedd posib i bobl ymweld â’r tir gwlyb eto. Roedd teuluoedd yn gallu mwynhau’r llwybr pren yn awr, a gweld yr hwyaid a bras y cyrs, a mwynhau’r agwedd agored a diogel oedd wedi’i chreu. Mae’r sylwadau hyd yma wedi bod yn hyfryd, gan bobl oedd ddim yn gwybod bod y gors yn bodoli hyd yn oed, ac eraill yn dweud bod ei chyflwr wedi dirywio’n fawr ond ei bod bellach yn lle gwych i ymweld ag o ar garreg eu drws.

Volunteer event/Digwyddiad gwirfoddoli, Wrexham

Volunteer event/Digwyddiad gwirfoddoli © NWWT

Gyda’r cyfyngiadau symud oherwydd y Coronafeirws Covid-19, dim ond os yw’n ddiogel i chi ymweld ddylech chi wneud hynny, fel rhan o’ch ymarfer dyddiol. Bydd byd natur yn parhau yn union fel mae wedi gwneud erioed.

Mae’r prosiect yma wedi derbyn cyllid drwy Raglen Datblygu Gwledig – Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru 2014-2020 – Cynllun Rheolaeth Gynaliadwy, sy’n cael ei chyllido gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygiad Gwledig a Llywodraeth Cymru.

Welsh Government - SMS logo

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn helpu i wneud gwahaniaeth positif i fyd natur, a chreu tirweddau sy’n edrych yn atyniadol ar yr un pryd, cysylltwch â ni i wirfoddoli neu weithio gyda ni ar eich tir.              

Cysylltu