Draenogod eich angen chi!

Draenogod eich angen chi!

Hedgehog © Tom Marshall

Mae draenogod yn wynebu sawl bygythiad yr adeg yma o’r flwyddyn – wel, os nad oes gennych chi unrhyw le i fyw ac i gasglu digon o fwyd i oroesi dros y gaeaf, rydych chi mewn helynt! Ond mae pethau syml y gallwn ni i gyd eu gwneud i helpu …

Mae draenogod i’w gweld ledled y DU fwy neu lai. Mae gerddi, gwrychoedd, coetiroedd, glaswelltiroedd, parciau a mynwentydd i gyd yn gynefinoedd pwysig i ddraenogod ac mae’r oedolion yn teithio hyd at filltir sgwâr bob nos yn ardal eu cartref sy’n amrywio rhwng 10 ac 20 hectar yn chwilio am fwyd a chymar – mae hyn gymaint â stadau tai a chymdogaethau cyfan! 

Gyda llai o olau dydd a phrinder ffynonellau bwyd i ddraenogod erbyn hyn, mae’n gyfnod allweddol o’r flwyddyn iddyn nhw ac maen nhw angen magu pwysau i fod tua 600g er mwyn gallu goroesi wrth aeafgysgu. Mae’n bur debyg na fydd draenogod bach sydd wedi’u geni’n hwyr yn y flwyddyn yn goroesi nawr oni bai eu bod yn ddigon ffodus i gael eu canfod a’u cludo i un o’r ychydig noddfeydd draenogod sydd gennym ni yng ngogledd Cymru.                                     

Gallwch gymryd camau syml iawn i wella eu siawns o oroesi drwy wella mynediad i’ch gardd ac allan ohoni – gwneud tyllau mewn ffensys neu dynnu brics sengl allan o waliau fel eu bod yn gallu symud yn rhydd, er enghraifft. (Defnyddiwch y brics sydd wedi’u tynnu i greu twnnel bach i gadw cathod allan!) Hefyd gallwch roi cnau, ffrwythau, cynrhon blawd neu fwyd cath sych allan i ddraenogod, ond peidiwch â  chael eich temtio i roi llefrith iddyn nhw – dydyn nhw ddim yn gallu treulio lactos.

Yn olaf, peidiwch â bod yn rhy daclus! Ceisiwch adael rhyw fath o gysgod sy’n sych ac yn ddiogel allan i ddraenogod, fel eu bod yn gallu gorffwys neu gysgodi – a byddwch yn ofalus iawn os ydych chi’n creu coelcerth …

Sut gallwch chi helpu

Hefyd mae mwy o wybodaeth ar gael drwy edrych ar rai o’r tudalennau ‘gweithredu’ da iawn ar ein gwefan ni neu gallwch lawrlwytho rhai o’n taflenni gweithgarwch:
 

Sut i greu cartref i ddraenog – Taflen Weithgarwch

Beth i’w wneud os dowch chi o hyd i ddraenog wedi anafu

Dewch i sgwrs am ddraenogod – mae’r un nesaf nos Wener 6fed Rhagfyr