Darganfod Cennau Cyffrous ger Llanbedr

Darganfod Cennau Cyffrous ger Llanbedr

Lichen covered branches in canopy of oak woodland © Guy Edwardes 2020Vision

Tyrchwch i fyd cyfrinachol y fforest law Geltaidd, lle mae coetiroedd hynafol hanfodol bwysig yn lloches i lawer o blanhigion a chennau rhyngwladol brin.

Am beth ydych chi’n meddwl wrth glywed y geiriau ‘fforest law’? Nid coetir deiliog, llydanddail, yn llawn coed derw mawreddog a choed bedw tal, rwy’n siŵr! Yn lle meddwl am adar paradwysaidd, dychmygwch dylluan frech â’i llygaid oren; ac yn lle morgrug deildorrol, glöyn byw cain glesyn y celyn; ac yn lle bromeliadau, bryoffytau lliwgar.

Mae’n anodd credu bod fforestydd glaw tymherus yn llechu ym Mharc Cenedlaethol Eryri. Fel rhannau o’r Alban ac Iwerddon, mae gan yr ardal yng Ngogledd Cymru sy’n ffinio â Môr yr Iwerydd hinsawdd ryfeddol o fwyn o gymharu â gweddill Ynysoedd Prydain. Mae’r aer cynhesach hwn, ynghyd â glawiad cynyddol, wedi arwain at gynefin arbenigol o’r enw ‘fforest law Geltaidd’. Er bod gan y coetiroedd hynafol sydd i’w canfod yma dymheredd cyfartalog sylweddol is na fforestydd glaw yr Amazon neu’r Congo, gallant fod yn gartref i gennau a bryoffytau prin yn fyd-eang sy’n ffynnu mewn amodau gwlyb. Maent nid yn unig yn gynefin hanfodol i blanhigion is, ond hefyd mae rhai safleoedd penodol wedi’u dynodi’n Ardaloedd Cadwraeth Arbennig i ystlumod, yn ogystal â bod yn ddelfrydol ar gyfer adar y coetir, fel telor y coed sy’n nythu ar y ddaear a’r fronfraith, sydd ar restr goch yr adar.

Beth am archwilio eich fforestydd glaw Celtaidd lleol (gan gynnwys Gwarchodfa Natur Coed Crafnant yr Ymddiriedolaeth) ddydd Gwener 7 Rhagfyr? Ymunwch â ni am bicnic yn y fforest ac ar daith dywys i gael gwybod mwy am bwysigrwydd gwarchod y byd hynafol rhyfeddol yma.  Mwy o wybodaeth YMA.