Cors Goch yn flodau i gyd!

Cors Goch yn flodau i gyd!

Heath spotted orchid - Philip Precey

Dyma un o’r amseroedd gorau i weld Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cors Goch ar Ynys Môn. Mae gwelliannau mawr wedi’u gwneud i’r llwybrau troed, y pyst cyfeirio a’r llwybr pren – beth am fynd draw am dro i’w gweld drosoch eich hun?

Mae Cors Goch nid yn unig yn un o’r llefydd mwyaf rhyfeddol yng Ngogledd Cymru i weld rhywogaethau amrywiol o degeirianau (cors y gogledd, persawrus a llawer mwy …) ond hefyd, gyda’n llwybr pren newydd yn eich arwain chi am dro hyfryd drwy’r gwlybdir, mae’n haws nag erioed yn awr dod yn agos at fywyd gwyllt sy’n hoffi gwlychu ei draed. Fe welwch chi flodau sy’n hoff o ddŵr, fel ffa’r gors, blodyn hardd iawn, a’r chwysigenwraidd diddorol sy’n dal pryfed, a thafod y gors, a dod ar draws y pyllau tawel gyda mursennod a gweision y neidr symudliw, a chlywed arogl unigryw helyg Mair hyd cyrion y gwlybdir.

Ar draws y ffen mae gwaith clirio helyg helaeth wedi digwydd i roi gwell cynefin i ffynnu ynddo i blanhigion ac anifeiliaid sy’n hoff o wlybdir agored. Bydd llwybrau sydd wedi’u marcio o’r newydd yn mynd â chi i fyny i ardaloedd sychach y warchodfa natur, lle mae planhigion fel y gwyddlwyn cyffredin a phys y ceirw’n marcio’r graig galchfaen dan draed a’r grug yn dangos yr ardaloedd tywodfaen mwy asidig. Efallai y gwelwch chi gipolwg ar glochdar y cerrig yn clwydo ar lwyn o eithin, neu fadfall hyd yn oed yn torheulo ar graig noeth!

Hefyd mae cyllid diweddar gan Ddyfarniad Biffa wedi ein galluogi i wneud gwelliannau i fwthyn traddodiadol Bryn Golau, gan gynnwys adfer yr hen le tân enfawr a’r popty. Bydd hwn yn lle i bobl fwynhau, boed drwy ddigwyddiadau bywyd gwyllt neu wirfoddoli i gynnal y warchodfa natur. 

Oes gennych amser i sbario?

Mae Cors Goch, fel pob un o’n gwarchodfeydd natur, ar agor drwy gydol y flwyddyn i ymwelwyr ei mwynhau. Er hynny, os ydych chi’n gallu cynnig ychydig mwy o amser, mae gwirfoddoli’n ffordd fwy arbennig fyth o ddangos eich hoffter o’r safle rhyfeddol yma! Rydym yn cynnal sesiynau rheolaidd a gallwch gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau – does dim angen unrhyw brofiad. Cofrestrwch ar ein gwefan ni i gael y wybodaeth ddiweddaraf am beth sy’n digwydd, a pha bryd.

Gwirfoddolwch