Agoriad swyddogol Gwarchodfa Natur Chwarel Minera

Agoriad swyddogol Gwarchodfa Natur Chwarel Minera

Minera Quarry nature reserve © Simon Mills

Dewch i ddathlu agoriad swyddogol Chwarel Minera, 36ain gwarchodfa natur Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, gyda’r cyflwynydd natur ar y teledu, Mike Dilger, ar 2 Mehefin rhwng 10am a 4pm!

Bydd llond gwlad o bethau i’w gweld a’u gwneud ar y diwrnod, gan gynnwys teithiau tywys ar y safle, canllawiau natur a gweithgareddau i blant, archwilio pyllau gyda Mike Dilger 

a gweithgareddau ‘Labordy Awyr Agored’. Bydd lluniaeth gan gynhyrchwyr lleol ar gael i’w brynu. Hefyd gallwch gymryd rhan yn bio-blitz Chwarel Minera sy’n cael ei gydlynu gan Cofnod (Canolfan Cofnodion Biolegol Gogledd Cymru) ac efallai y byddwch chi’n darganfod rhywogaeth newydd i ychwanegu at ein rhestr gynyddol ar gyfer y safle!

Ar ôl blynyddoedd lawer o ymgyrchu a threfnu, prynodd yr Ymddiriedolaeth Natur Chwarel Minera gan Tarmac yn haf 2017 ac mae wedi treulio’r misoedd diwethaf yn gwneud y safle’n ddiogel ac yn hygyrch i’r cyhoedd. Roedd y chwarel ar gau i’r cyhoedd cyn hyn, ar wahân i fynediad ar hyd un llwybr troed cyhoeddus, ond nawr bydd ar agor i bobl ei mwynhau’n rhydd, lle mae’n ddiogel gwneud hynny. 

Orchids at minera quarry

Orchids at minera quarry_Simon Mills

Mae’r warchodfa natur yn enwog am ei fflora glaswelltir calchaidd amrywiol, tegeirianau, glöynnod byw a nyth hebog tramor. Mae’r rhwydwaith helaeth o ogofâu calchfaen a rhai o’r adeiladau chwarel ôl-ddiwydiannol yn safleoedd clwydo pwysig dros y gaeaf i rywogaethau niferus o ystlumod.

Beth am ddod i’r digwyddiad yma fel un o’ch 30 Diwrnod Gwyllt yn ystod mis Mehefin? Heb gofrestru eto? Ewch i www.wildlifetrusts.org/30DaysWild a chofrestru heddiw!

Mae lle parcio ym mhen draw Ffordd Maes y Ffynnon (LL11 3DE / SJ 25844 51945) ond cofiwch rannu ceir os yw hynny’n bosib, gan fod y lle parcio’n brin. Bydd mynediad i gadeiriau olwyn a sgwteri symudedd yn bosib ar y trac tarmac o’r maes parcio i ddigwyddiad yr agoriad, ond cofiwch fod gweddill y safle’n cynnwys tir anwastad a garw.