Dolffin trwyn potel

Bottlenose Dolphin

Bottlenose Dolphin ©John MacPherson/2020VISION

Dolffin trwyn potel

Enw gwyddonol: Tursiops truncatus
Y dolffiniaid trwyn potel yn nyfroedd Prydain yw’r rhai mwyaf o’u bath – maen nhw angen gallu ymdopi â’n dŵr oer ni! Dyma greaduriaid cymdeithasol iawn ac maen nhw’n fwy na pharod i nofio ochr yn ochr â chychod, gan ddarparu profiad bywyd gwyllt rhyfeddol i’r bobl ar y cwch.

Species information

Ystadegau

Hyd: hyd at 4 m
Pwysau: 500 kg
Yn byw ar gyfartaledd am: 45-50 mlynedd

Statws cadwraethol

Mae wedi’i warchod yn y DU o dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad, 1981, wedi’i restru o dan CITES Atodiad II a’i ddosbarthu fel Rhywogaeth Flaenoriaeth o dan Fframwaith Bioamrywiaeth Ôl-2010 y DU. Hefyd mae wedi’i warchod o dan Reoliadau Cadwraeth (Cynefinoedd Naturiol, ac ati) (Gogledd Iwerddon) 1995

Pryd i'w gweld

Ionawr - Rhagfyr

Ynghylch

Dolffiniaid trwyn potel yw ein dolffiniaid mwyaf cyfarwydd a’r rhai rydych fwyaf tebygol o’u gweld o draethau Prydain. Y dolffiniaid yma yw’r dolffiniaid trwyn potel mwyaf yn y byd – mae eu maint yn eu helpu i ymdopi yn ein dŵr oer ni. Y llefydd gorau i’w gweld yw Moray Firth yn yr Alban, Bae Ceredigion yng Nghymru ac arfordiroedd Cernyw, Northumberland a Gogledd Cymru. Maen nhw’n anifeiliaid cymdeithasol iawn ac i’w gweld yn aml mewn grwpiau bach o hyd at 15 o ddolffiniaid. Maen nhw wrth eu bodd yn neidio allan o’r dŵr ac yn fwy na pharod i ddod at gychod a syrffio yn y tonnau mae’r cwch yn eu creu. Pysgod yw eu bwyd ac maen nhw’n gweithio fel tîm yn aml i hela.

Sut i'w hadnabod

Dolffin byrdew, llwyd cymharol blaen, yn dywyllach ar y rhan uchaf ac yn oleuach ar y rhan isaf. Mae ei big yn fyr a thew ac asgell ei gefn yn fawr a siâp cryman, wedi’i marcio gyda rhiciau a chrafiadau yn aml. Mae dolffiniaid trwyn potel i’w gweld yn agos at y lan yn aml, ar eu pen eu hunain neu mewn grwpiau bach. Cadwch lygad am dasgu afreolus a bylchu’r tonnau – a pheidiwch â synnu os byddant yn dod at eich cwch i weld pwy ydych chi!

Dosbarthiad

I’w weld ledled y DU, ac yn gyffredin yn y Moray Firth, Bae Ceredigion ac oddi ar arfordir Cernyw.

Roeddech chi yn gwybod?

Mae posib adnabod dolffiniaid trwyn potel unigol oddi wrth y partrwm unigryw o farciau a rhiciau ar asgell eu cefn – yn debyg iawn i olion bysedd! Wedyn gellir tracio dolffiniaid yn ystod eu hoes gan ddefnyddio lluniau o’u hesgyll yn unig.

Sut y gall bobl helpu

Report your sightings of bottlenose dolphins to your local Wildlife Trust. If you meet dolphins whilst at sea, maintain a distance of at least 100m, especially if groups contain calves. If the dolphins approach you, maintain a constant speed and allow them to interact on their own terms and leave at will. If you find a stranded bottlenose dolphin (dead or alive), please report it to the relevant authority (see www.wildlifetrusts.org/living-seas/marine-protected-areas/sightings). Entanglement in marine litter and ghost fishing gear is a threat to all marine mammals, so why not participate in a beach clean or simply pick up and safely dispose of any rope, strapping or net next time you're at the beach. To help dolphins and other marine wildlife, The Wildlife Trusts are working with sea users, researchers, politicians and local people towards a vision of 'Living Seas', where marine wildlife thrives. Do your bit for our Living Seas by supporting your local Wildlife Trust or checking out our Action Pages.

How people can help

Report your sightings of bottlenose dolphins to your local Wildlife Trust. If you meet dolphins whilst at sea, maintain a distance of at least 100m, especially if groups contain calves. If the dolphins approach you, maintain a constant speed and allow them to interact on their own terms and leave at will. If you find a stranded bottlenose dolphin (dead or alive), please report it to the relevant authority.

Entanglement in marine litter and ghost fishing gear is a threat to all marine mammals, so why not participate in a beach clean or simply pick up and safely dispose of any rope, strapping or net next time you're at the beach.

As a charity we rely on memberships

Memberships help us campaign for better protection and management of our seas.

Join today
Sea

Mark Hamblin/2020VISION

Seas in crisis

Plastic-strewn beaches, fisheries on the verge of collapse and the ever growing effects of global climate change.

What The Wildlife Trusts are doing