Gwarchodfa Natur Caeau Tan-y-bwlch

Caeau Tan y Bwlch Nature Reserve meadow
Aerial view of Caeau Tan y Bwlch Nature Reserve

Aerial view of Caeau Tan y Bwlch Nature Reserve (c) Pat Waring

Caeau Tan y Bwlch Nature Reserve

Caeau Tan y Bwlch Nature Reserve

Greater butterfly orchid

Greater butterfly orchid_Philip Precey

A plant with very pointy segmented leaves, and small yellow flowers, in a field of grass.

Philip Precey

Green woodpecker

Margaret Holland

Hare

Gwarchodfa Natur Caeau Tan-y-bwlch

Yn gyforiog o flodau gwyllt yn ystod y gwanwyn a’r haf, ac yn cynnig golygfeydd gaeafol hyfryd o’r arfordir, mae’r ddôl wair draddodiadol yma’n cynnig cipolwg ar orffennol ein cefn gwlad ni.

Location

Clynnog Fawr
Gwynedd
LL54 5DL

OS Map Reference

SH430488
OS Explorer Map OL254
A static map of Gwarchodfa Natur Caeau Tan-y-bwlch

Know before you go

Maint
5 hectares
z

Pris mynediad

Na
P

Manylion parcio

Maes parcio oddi ar y ffordd a sydd ar agor trwy gydol y flwyddyn

Anifeiliaid pori

Byddwch yn ymwybodol bod da byw yn pori rhai rhannau o'r warchodfa y rhan fwyaf o'r flwyddyn, felly caewch gatiau y tu ôl i chi a chadwch gŵn ar dennyn bob amser.

Llwybrau cerdded

Nid oes unrhyw lwybrau - cerddwch i lawr trwy'r dolydd. Mae'r glaswelltir gwlyb a'r coetir ymhellach i lawr yr allt yn gorsiog iawn trwy gydol y flwyddyn.

Mynediad

Cymerwch ofal wrth ymweld â’r caeau is, gwlypach hefyd ... rhaid cael welingtyns! 

Dogs

Ar dennyn

When to visit

Amseroedd agor

Ar agor bob amser

Amser gorau i ymweld

Ddiwedd y Gwanwyn ac yn yr haf

Am dan y warchodfa

Blodau gwyllt a theloriaid

Gyda chloddiau (daear a cherrig) o’u hamgylch, mae’r caeau hyn yn nodwedd weledol sy’n ein hatgoffa ni o sut mae arferion ffermio wedi newid yn ddramatig yn ystod y ganrif ddiwethaf.  Amcangyfrifir bod y DU wedi colli 97% o’i dolydd gwair a reolir yn draddodiadol ers y 1930au – sy’n golygu bod y warchodfa’n bwysicach fyth. Mae’r warchodfa ar ei mwyaf lliwgar ddiwedd mis Mehefin a dechrau mis Gorffennaf, pan mae blodau gwyn cain y tegeirian llydanwyrdd mwyaf yn garped ar y caeau. Mae eu lliw golau’n amlwg yng nghanol lliwiau mwy llachar yr effros, pys y ceirw a’r bengaled ddu sy’n llenwi’r safle. Mae’r caeau gwlypach yn is i lawr yn fosäig o laswelltir gwlyb a ffen helyg, sy’n gynefin nythu rhagorol i adar mudo fel teloriaid yr helyg a’r gwair.

Dôl wair draddodiadol

Mewn partneriaeth â’r perchnogion tir, Plantlife, mae dulliau o reoli dolydd gwair traddodiadol wedi cael eu defnyddio ar y dolydd uwch, sychach, ers o leiaf 30 o flynyddoedd. Mae’r rhain yn cynnwys pori ysgafn gan wartheg yn ystod yr hydref a’r gaeaf, torri cnwd o wair ar ddiwedd yr haf, ac osgoi ychwanegu unrhyw wrtaith neu gemegau artiffisial. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae hadau blodau gwyllt wedi cael eu cyfrannu o’r warchodfa hon i greu dolydd blodau gwyllt newydd mewn mannau eraill yng Ngwynedd. Mae’r gors is, wlypach yn cael ei phori gan ferlod yn ystod y gwanwyn a’r haf. Mae staff a gwirfoddolwyr yr Ymddiriedolaeth Natur yn rheoli ymlediad y rhedyn i’r dolydd gwair, i atal cysgodi gormodol ar y blodau gwyllt brodorol, a hefyd yn rheoli’r helyg yn y gors i gynnal amodau agored a gwlyb.

Cyfarwyddiadau

Trowch oddi ar yr A499 o Gaernarfon i Bwllheli i bentref Clynnog Fawr. Cymerwch yr 2il (sydyn) ar y chwith ac wedyn troi’n syth i’r dde wrth yr ysgol, i gyfeiriad Capel Uchaf. Ewch ymlaen am ryw ¾ milltir i fyny’r allt a chymryd y cyntaf ar y dde i fyny allt (cudd a dim arwydd). Ewch yn eich blaen i fyny’r trac cul, troellog yma am ryw filltir. Ar ôl tro 90 gradd i’r chwith, mae maes parcio’r warchodfa 150 metr ymlaen ar y chwith i chi, drwy giât i gae (SH 430 488)

Contact us

Luke Jones
Cyswllt ffôn: 01248 351541

Dynodiad amgylcheddol

Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA)
A Greater butterfly orchid, with whitish-green flowers that have spreading petals and sepals - a bit like the wings of a butterfly.

Greater butterfly orchid © Philip Precey.

Cefnogwch ni

Dod yn aelod heddiw
A small boy carrying a stick, walking through a woodland with large old trees and bluebells carpeting the floor. Behind him is a young girl running up to him, and a woman bending down to look at the flowers.

Family walking though bluebells © Tom Marshall

Vegetation monitoring at Caeau Tan y Bwlch Nature Reserve

Vegetation monitoring at Caeau Tan y Bwlch Nature Reserve

Aerial view of Caeau Tan y Bwlch Nature Reserve

Aerial view of Caeau Tan y Bwlch Nature Reserve (c) Pat Waring

Map a llyfryn gwarchodfa

Llawr-lwytho