Beached! Beth sy'n dod i’r lan ar eich traeth chi?

A hand holding seashells. Both shells have barnacles and other organisms growing on them. In the background a sandy beach and the sea on a clear day.

Beached! © NWWT

Beached! Beth sy'n dod i’r lan ar eich traeth chi?

Lleoliad:
Granary Court Business Park, , Llanasa, Talacre, Flintshire, CH8 9RL
Gallwch ddod o hyd i bob math o bethau wedi'u golchi i’r lan ar draethlin gwahanol draethau! Dewch draw i ddysgu sut i ddefnyddio eich sgiliau cribo traeth i helpu cadwraeth bywyd gwyllt yn y gweithdy ymarferol yma.

Manylion y digwyddiad

Pwynt cyfarfod

Y dosbarth ENI, Talacre, Y Fflint, CH8 9RL. Grid ref: SJ 11774 83917; W3W: skims.mash.whisk)
View on What3Words

Dyddiad

Time
11:45am - 3:00pm
A static map of Beached! Beth sy'n dod i’r lan ar eich traeth chi?

Ynglŷn â'r digwyddiad

Mae Beached! yn brosiect sy'n annog pobl i ddysgu mwy am yr hyn sy'n cael ei olchi i’r lan ar eu traethau. Yn y gweithdy yma byddwch yn dysgu sut i adnabod yr hyn rydych chi’n ei ddarganfod ar y traeth, yn dysgu ble i'w cofnodi nhw a bydd cyfle hefyd i ddod yn gofnodwr rheolaidd ar eich darn chi eich hun o'r traeth.

Byddwn yn rhoi cychwyn i bethau yn yr ystafell ddosbarth cyn mynd i'r traeth i roi eich sgiliau newydd ar waith!

Siaradir y trefnydd Gymraeg llafar felly gallwch ddefnyddio’r Gymraeg neu’r Saesneg os dymunwch.

Bwcio

Pris / rhodd

Croesawn roddion

Gwybodaeth archebu ychwanegol

Rhaid cofrestru

Yn addas ar gyfer

Oedolion, Arbenigwyr, Dechreuwyr

Gwybod cyn i chi fynd

Cŵn

image/svg+xml
Ni chaniateir cŵn
image/svg+xml

Symudedd

Cofiwch bod y mynediad i'r traeth dros dwyni isel a cherrig mân cyn cyrraedd traeth gwlyb, tywodlyd a fflat.

Mae toiledau yn yr ystafell ddosbarth, ond nid ar y traeth. Mae trafnidiaeth gyhoeddus yn aml i ben y ffordd i gyfeiriad Talacre. Bydd angen cerdded 15 munud ar droed i leoliad y cyfarfod.

image/svg+xml

Beth i'w ddod

Nodwch fanylion y cyfarfod a hefyd rhif ffôn symudol yr arweinydd rhag ofn y bydd arnoch ei angen ar y diwrnod.

Dewch â dillad ac esgidiau addas ar gyfer y tywydd a glannau hallt a gwlyb.

image/svg+xmli

Facilities

Toiledau

Cysylltwch â ni