
Nature journal, foxglove © Kate Philbin.

Nature journal, trees © Kate Philbin
Manylion y digwyddiad
Ynglŷn â'r digwyddiad
Mae Kate Philbin yn ddarlunydd ac yn athrawes gelf sydd wedi'i lleoli yng Ngogledd Cymru. Bydd hi'n ein dysgu ni sut i ddechrau creu ein dyddiaduron natur ein hunain i helpu i gofnodi'r bywyd gwyllt rydyn ni'n dod o hyd iddo yng Ngwarchodfa Natur Cors Goch.
Gyda'n gilydd, fe fyddwn ni'n adnabod planhigion yn y warchodfa ac yn rhoi cynnig ar eu darlunio a'u paentio nhw yn ein llyfrau braslunio i greu cofnodion diddorol y gellir ychwanegu atyn nhw wedyn.
Mae cadw dyddiaduron natur yn cynnig llu o fanteision. Mae’n gallu lleihau straen, gwella hwyliau, rhoi hwb i greadigrwydd, a gwella sgiliau arsylwi, a hefyd yn hyrwyddo ymdeimlad o ryfeddod a diolchgarwch, yn ogystal â meithrin cysylltiad dyfnach â'r byd naturiol.
Mae'r digwyddiad yma’n addas ar gyfer arbenigwyr a dechreuwyr.
Bydd yr holl ddeunyddiau’n cael eu darparu.
Mae'r digwyddiad yma’n rhan o'n prosiect Natur yn Cyfrif ni. Yn ystod ein digwyddiadau, byddwn yn cofnodi'r rhywogaethau rydyn ni'n dod o hyd iddyn nhw fel rhan o brosiect gwyddoniaeth y dinesydd i'n helpu ni i reoli ein gwarchodfeydd natur a'n cynefinoedd lleol.