© NWWT Caroline Bateson
Mawredd Mwynglawdd
Lleoliad: Gwarchodfa Natur Chwarel Mwynglawdd,
Gwarchodfa Natur Chwarel Mwynglawdd, Ffordd Maes y Ffynnon, Minera,, Wrecsam, LL11 3DE
Gwarchodfa Natur Chwarel Mwynglawdd,
Gwarchodfa Natur Chwarel Mwynglawdd, Ffordd Maes y Ffynnon, Minera,, Wrecsam, LL11 3DEYmunwch â ni am daith gerdded natur eithaf unigryw, wrth i ni ddilyn rheilffordd y mwynglawdd plwm drwy'r warchodfa a chwilio am lesyn-y-gaeaf deilgrwn a'r galdrist lydanddail.
Manylion y digwyddiad
Ynglŷn â'r digwyddiad
Gyda hanes diwydiannol sy'n rhychwantu 400 mlynedd, gellir dadlau bod Chwarel y Mwynglawdd yr un mor bwysig yn ddiwylliannol ag ydyw i fywyd gwyllt. Yn wreiddiol, roedd yn cael ei chloddio am ei phlwm ac, yn ddiweddarach, am galchfaen gwerthfawr (tan 1994), ond mae byd natur bellach yn adennill y tir.
Wrth i ni ddilyn llwybr hen reilffordd y pwll plwm, byddwn yn cadw llygad am lesyn-y-gaeaf deilgrwn, nifer enfawr o’r galdrist lydanddail a digonedd o fywyd gwyllt arall!
Trefnwyd y digwyddiad hyn gan Gangen Wirfoddol Wrecsam o Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru.