
© Manon Awst
Nodiadau natur gyda Manon Awst
Manylion y digwyddiad
Ynglŷn â'r digwyddiad
Ymchwiliwch i fyd planhigion wrth i ni archwilio'r cysylltiad rhwng gofod dynol a gwyllt. Darganfyddwch natur fandyllog y ffiniau rhwng gerddi a thirweddau ehangach, a darganfod effeithiau planhigion ymledol ar ein cynefinoedd ni.
Yn ystod y gweithdy yma, byddwch yn cael cyfle i greu eich dehongliad eich hun o thema rhywogaethau ymledol, yn seiliedig ar yr arddangosfa Tu Hwnt i'r Ffin yn y Gogarth. Byddwch yn cael eich tywys gan yr artist Manon Awst, y mae ei cherflun yn cael ei arddangos ar hyn o bryd yn yr arddangosfa ac yn ein Gwarchodfa Natur ni yng Ngwaith Powdwr.
Mae'r gweithdy yma, sy'n addas i ddechreuwyr, yn addas i bawb 14+ oed a phob lefel o allu artistig ac ysgrifennu.
Mae ygwesteiwr y digwyddiad yn siarad Cymraeg, felly defnyddiwch Gymraeg neu Saesneg yn ystod y daith.
Methu dod y tro yma? Dewch draw i un o'n digwyddiadau eraill ni!