
Vardre Walk © Mike Mosey.
Taith Gerdded Vardre - Dychwelyd at Natur
Manylion y digwyddiad
Ynglŷn â'r digwyddiad
Ymunwch â ni wrth i ni ddychwelyd i gynefin cyfoethog o ran rhywogaethau Deganwy gyda warden y safle. Cyfle i archwilio’r bywyd gwyllt a dysgu am y cynnydd sy'n cael ei wneud i adfer y dirwedd.
Ym mis Gorffennaf 2024, fe arweiniodd y warden gwirfoddol, Julian Pitt, daith gerdded ddiddorol i ni ar y Vardre yn Neganwy. Roedd ei ymdrechion i adfer rhywfaint o'r cynefin a'r amrywiaeth ddiddorol i'r SoDdGA yma’n nodedig iawn ond roedd llawer i'w wneud o hyd. Yn gartref i nadroedd defaid, gwenyn unigol, a rhywfaint o fflora anarferol, dyma'ch cyfle chi i weld sut mae'r safle wedi datblygu dros y flwyddyn. Os nad oeddech chi’n bresennol y tro diwethaf, mae croeso i chi ddod draw a darganfod y gwaith anhygoel sy'n cael ei wneud yma i warchod bywyd gwyllt.