Adar ysglyfaethus

Marsh harrier

Marsh harrier - Donald Sutherland

Ble mae gweld adar ysglyfaethus

Adar ysglyfaethus

Mae adar ysglyfaethus a thylluanod yn helwyr medrus iawn ym myd yr adar. Os ydych chi eisiau eu gweld yn adeiladu nyth, yn perfformio arddangosfeydd carwriaethol, yn rheoli’r awyr neu’n hedfan ar gyflymder mawr cyn plymio i lawr i ddal eu hysglyfaeth, mae adar ysglyfaethus yn cynnig golygfeydd godidog drwy gydol y flwyddyn, hyd yn oed yn nhwll y gaeaf.   

Chwilio am safleoedd adar ysglyfaethus yn eich ardal chi

Mae Cors Maen Llwyd, gerllaw Llyn Brenig, a Chors Goch ar Ynys Môn yn ddwy o’n gwarchodfeydd natur ble gallwch chi chwilio am amrywiaeth o adar ysglyfaethus, gan gynnwys bwncathod, y bod tinwen a’r gwalch glas.   

Am beth ddylech chi chwilio

Os ydych chi ar rostir Cors Maen Llwyd neu gorslwyni Cors Goch, rhaid i chi edrych i’r awyr am amlinelliad pendant aderyn ysglyfaethus. Cadwch lygad am adar ag adenydd mawr, llydan fel y bwncath neu byddwch yn effro i gyflymder ac adenydd siâp cryman y gwalch glas wrth iddo erlid adar bach. 

Os nad ydych chi’n gallu cyrraedd y llefydd hyn

Mae posib mwynhau adar ysglyfaethus yn nes at adref hefyd. Boed yn farcud coch, yn troelli ei gynffon wrth iddo lywio’n gwbl fedrus drwy’r awyr, neu’n gudyll yn hofran uwch ben ymyl y ffordd, neu gri ddolefus y bwncath uwch ben caeau a choetiroedd, mae adar ysglyfaethus o’n cwmpas ni ym mhob man.

Mwy o brofiadau bywyd gwyllt

O weld blodau gwyllt lliwgar i ganfod adar ysglyfaethus rhyfeddol, fe allwn ni eich helpu chi i fod yn nes at fywyd gwyllt ledled Gogledd Cymru.

Â