Y Nadolig yma, mae Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru yn cynnig ffordd i chi gofio am eich anwyliaid a'u cysylltiad â byd natur.
Rydyn ni wedi creu Coeden Er Cof arbennig ar-lein lle gallwch chi rannu cyflwyniadau, lluniau a straeon am y bobl rydych chi wedi'u colli. Drwy ychwanegu neges goffa, fe fyddwch chi hefyd yn cefnogi gwaith cadwraeth hanfodol yr Ymddiriedolaeth.
I ychwanegu eich cyflwyniad a gwneud cyfraniad diogel, cliciwch ar y botwm isod. Byddwch yn cael eich cyfeirio at ein partner cyfrannu dibynadwy ni i gwblhau eich trafodiad, gyda'r holl elw’n mynd yn uniongyrchol i Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru.