Mwsogl sffagnwm

Sphagnum Moss

©Mark Hamblin/2020VISION

Sphagnum Moss (Sphagnum capillifolium)

©Chris Lawrence

Sphagnum Moss

©Vicky Nall

Mwsogl sffagnwm

Mae mwsoglau sffagnwm yn carpedu'r ddaear gyda lliw ar ein corsydd, ein rhosydd a’n gweundiroedd ni. Maen nhw’n chwarae rhan hanfodol wrth greu corsydd mawn: drwy storio dŵr yn eu ffurfiau sbyngaidd, atal pydredd deunydd planhigion marw ac, yn y pen draw, ffurfio mawn.

Enw gwyddonol

Sffagnwm

Pryd i'w gweld

Ionawr i Ragfyr

Species information

Ystadegau

Uchder: 5cm
I’w canfod mewn rhai gwlybdiroedd yn unig, gyda rhai rhywogaethau'n brin. Mae Sphagnum balticum (mwsogl y gors Baltig) wedi'i warchod yn y DU o dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981, ac mae'n Rhywogaeth Flaenoriaeth o dan Fframwaith Bioamrywiaeth Ôl-2010 y DU.

Ynghylch

Mae nifer o rywogaethau o fwsoglau sffagnwm yn edrych yn debyg iawn i’w gilydd, felly fel arfer maen nhw’n cael eu grwpio gyda'i gilydd fel 'sffagnwm' er mwyn eu disgrifio'n hawdd. Mae'r 'mwsoglau’r gors' yma’n ffurfio'r carpedi byw, amryliw rhyfeddol sydd i’w cael mewn mannau gwlyb fel corsydd mawn, corsdir, rhos a gweundir. Maen nhw’n tyfu o sborau sy'n cael eu cynhyrchu mewn cyrff ffrwytho o'r enw capsiwlau. O’u gweld yn agos, maen nhw’n brydferth iawn, ond maen nhw hefyd yn chwarae rhan bwysig mewn creu a pharhad corsydd mawn. Maen nhw’n dal dŵr yn eu ffurfiau sbyngaidd ymhell ar ôl i'r pridd o'u cwmpas nhw sychu, gan ddarparu maetholion hanfodol a helpu i atal pydredd deunydd planhigion marw. Y deunydd organig yma sy'n cael ei gywasgu dros gannoedd o flynyddoedd i ffurfio mawn.

Sut i'w hadnabod

Mae mwy na 30 o rywogaethau o fwsoglau sffagnwm yn y DU, ac mae’n anodd iawn dweud y gwahaniaeth rhyngddyn nhw. Mae'r rhywogaethau yma’n amrywio o ran lliw o goch a phinc, i oren a gwyrdd. Mae planhigion mwsogl sffagnwm yn fach iawn, ond maen nhw’n tyfu'n agos at ei gilydd, gan ffurfio carpedi sbyngaidd; mae bryncynnau’n cael eu creu hyd yn oed pan fydd y mwsoglau’n tyfu i ffurfio twmpathau mawr.

Dosbarthiad

Eang.

In our area

Ewch am dro i rai o'n gwarchodfeydd natur gwlybdir gorau ni

Roeddech chi yn gwybod?

Gall mwsogl sffagnwm amsugno mwy nag wyth gwaith ei bwysau ei hun mewn dŵr.
Rydyn ni’n gweithio i adfer a gwarchod ein corsydd, ein rhosydd a’n gweundiroedd drwy hyrwyddo rheolaeth dda, clirio prysgwydd sy'n ymledu a gweithredu trefn bori fuddiol.

Ewch am dro i rai o'n gwarchodfeydd natur gwlybdir gorau ni